Mae Liz Saville-Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi gofyn i Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, roi ystyriaeth frys i osod cyfyngiadau teithio ar rannau o Loegr sydd â nifer uchel o achosion Covid-19.
Daw’r alwad ar Mr Johnson i weithredu yn dilyn pryderon am breswylwyr mewn ardaloedd â lefelau uchel o drosglwyddiad Covid-19 yn Lloegr yn teithio i rannau o Gymru gyda chyfraddau llawer is, gan ledaenu’r feirws, o bosib.
Dywedodd Liz Saville-Roberts: “O yfory ymlaen, ni fydd 2.3 miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu teithio allan o’r wlad heb reswm da. Ac eto, gall pobl o ardaloedd sydd wedi’u cloi yn Lloegr ymweld â’r Gymru wledig o hyd.
“Gallai teithio o Fetws-y-Coed i Feddgelert arwain at ddirwy. Ond Rochdale i Rhosneigr? Dim problem.”
Ychwanegodd Ms Saville-Roberts: “Codais hyn gyda’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf – mae’n rhaid i deithio hamdden o ardaloedd sydd wedi’u cloi ddod i ben. A wnaiff wneud yn dda ar hyn heddiw?”
‘Afresymegol… ac anochel’
Atebodd Boris Johnson ei bod yn “anochel” y bydd rhai gwahaniaethau’n ymddangos yn “afresymegol”:
“Mae mesurau gwahanol ar waith, fel rydym eisoes wedi’u trafod y prynhawn yma, ond, yn gyffredinol, mae’r DU yn bwrw ymlaen â’r un dull ac rwy’n ddiolchgar iawn i Mark Drakeford ac i bawb arall yn Llywodraeth Cymru am y ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd i drechu’r feirws,” meddai.
“Bydd, bydd rhai gwahaniaethau, ac oes, mae ’na rai’n ymddangos yn afresymegol, sy’n anochel… mae’n anochel wrth fynd i’r afael â pandemig. Ond rwy’n ddiolchgar am y cydweithrediad y mae (Ms Saville-Roberts) wedi’i roi,” ychwanegodd.
Safbwynt Llywodraeth Cymru
Yn ei chynhadledd i’r wasg ddydd Mercher 30 Medi, disgrifiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y cyfyngiadau teithio “fel rhan bwysig o ddiogelu a rheoli’r feirws.”
Dywedodd Kirsty Williams y gofynnwyd i Mr Johnson weithredu’r un mesurau yn Lloegr gan fod Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’n ffordd ddefnyddiol iawn o reoli’r feirws ymhellach fyth.
“Yn y lle cyntaf, credwn mai mater i Loegr yw gwneud y darpariaethau hyn ar ran dinasyddion Lloegr ac rydym yn aros am ymateb gan y Prif Weinidog [Boris Johnson],” meddai wrth gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd.
Roedd llythyr Mr Drakeford yn galw ar Mr Johnson i roi “ystyriaeth frys” i osod y cyfyngiadau teithio mewn ardaloedd yn Lloegr gyda lefelau uchel o heintiau coronaidd y galon.
“Byddai hyn yn gam sylweddol tuag at leihau’r risg a wynebwn gyda’n gilydd, a rhoi cryn sicrwydd i gymunedau mewn ardaloedd ar y ffin ein bod yn cymryd pob cam posibl i’w diogelu,” ysgrifennodd Mr Drakeford.
Diweddariad: Mwy o alw
Am yr eilddydd yn olynol, galwyd ar Lywodraeth Prydain i ddod â’r anghysondebau i ben. Y tro hwn, AS Llafur, Chris Elmore (Ogwr), oedd wrthi’n codi pryderon ynghylch pobl yn teithio o ardaloedd sydd dan fesurau clo yn Lloegr i fynd ar wyliau yng Nghymru.
Wrth holi Penny Mardaunt AS, y Tâl-feistr Cyffredinol, dywedodd Mr Elmore:
“Yn Lloegr, mae’r bobl hynny mewn ardaloedd sydd dan gyfyngiadau yn gallu teithio i Gymru i fynd ar wyliau. Yng Nghymru, os ydych mewn ardal dan gyfyngiadau, fel yn fy etholaeth i, ni chewch chi deithio i fynd ar wyliau.
“Gofynnwyd hyn i’r Ysgrifennydd Iechyd a’r Prif Weinidog yr wythnos hon. A allai [Penny Mordaunt] neu yn wir [Michael Gove] siarad â’r Prif Weinidog er mwyn iddo ddweud wrth bobl yn Lloegr os ydych yn byw mewn ardal gyfyngedig, peidiwch â mynd ar wyliau, peidiwch â theithio i Gymru, peidiwch â lledaenu’r feirws.”
Ymatebodd Ms Mordaunt: “Byddaf yn sicr yn codi hynny ar ran [Mr Elmore]. Rwy’n credu ei fod yn un o fanteision y pedair gwlad yn gweithio gyda’i gilydd ein bod yn ceisio cael cymaint o gysondeb ac […] un set o reolau[ […] caiff hynny effaith yn arbennig ar gymunedau sy’n byw ger y ffiniau hynny.”