Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod modd i rygbi ddychwelyd ar ôl cyfnod y coronafeirws.
Maen nhw wedi cyhoeddi chwe cham, gydag amserlen ar gyfer pob un o’r camau:
- Cam 1: paratoi ac addysgu fesul aelwyd
- Cam 2a: ymarfer answyddogol mewn grwpiau
Bydd y ddau gam yn cael eu gweithredu rhwng Gorffennaf 13 ac Awst 1.
- Cam 2b: ymarfer swyddogol mewn grwpiau gyda sêl bendith Undeb Rygbi Cymru, gyda’r broses o gofrestru chwaraewyr o Awst 1.
Dim ond pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru’n caniatáu y bydd modd symud ymlaen at y camau canlynol, ac felly does dim dyddiadau penodol ar eu cyfer eto.
- Cam 3: ymarfer â chyswllt
- Cam 4: dechrau’r tymor gyda gemau cyfeillgar a gemau lleol
- Cam 5: dechrau cystadlaethau
Egluro’r drefn
Bydd y cyfnod paratoi ac addysgu’n gofyn bod hyfforddwyr, chwaraewyr – a rhieni yn achos plant sy’n chwarae – yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth coronafeirws corff Rygbi’r Byd cyn cofrestru gydag Undeb Rygbi Cymru o Awst 1.
Bydd grwpiau ymarfer wedi’u cyfyngu i 10-15 o bobol yn unig yn y lle cyntaf ac yn canolbwyntio ar ffitrwydd, sgiliau a gemau heb gyswllt.
Bydd swyddogion clybiau’n cael gwahoddiad i webinar yr wythnos hon, lle byddan nhw’n derbyn cyfarwyddyd ar hylendid, defnyddio cyfarpar a threfnu caeau ymarfer, a bydd modd defnyddio gwiriwr symptomau ar-lein ar gyfer sesiynau.
Bydd modd i glybiau gymryd rhan wedyn mewn webinarau ar baratoi cyfleusterau, ariannu a gweithdrefnau cymorth cyntaf, ac mae Undeb Rygbi Cymru wrthi’n trefnu PPE.
Bydd ymarferion â chyswllt yn ddibynnol ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n gyson.
‘Rhan o’r datrysiad’
Yn ôl Undeb Rygbi, maen nhw’n “benderfynol o fod yn rhan o’r datrysiad” ar gyfer y coronafeirws.
“Er mwyn i hynny ddigwydd, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydweithio,” meddai Julie Paterson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Undeb Rygbi Cymru.
“Mae diogelwch pawb sydd ynghlwm wrth rygbi cymunedol yng Nghymru a’u cymunedau ehangach o’r pwys mwyaf a phan fydd rygbi’n dychwelyd, rydym oll am iddi ddychwelyd am byth.
“Byddwn yn defnyddio’r cyfnod yma cyn Awst 1 i helpu i baratoi clybiau a grwpiau i ddychwelyd i gam cyntaf ymarferion rygbi wedi’u trefnu gan glybiau.”
‘Cyfle gwych’
“Er bod y rhain yn amgylchiadau anrhagweladwy sydd yn orfodol, maen nhw hefyd yn gyfle gwych i hyfforddwyr a chwaraewyr fireinio sgiliau unigol a thîm a fydd o les i’r gêm yn y tymor hir,” meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru.
“Byddwn yn cynnig syniadau ac adnoddau i hyfforddwyr ond rydym hefyd yn gofyn iddyn nhw fod yn arloesol ac i annog creadigrwydd.”