Mae John Manders yn dweud ei fod e’n “freintiedig” ar ôl curo dau gyn-chwaraewr rhyngwladol am sedd ar Gyngor Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru.

Daeth y cyn-blismon i frig y bleidlais yn erbyn Ieuan Evans a Nigel Davies wrth iddyn nhw geisio ennill yr hawl i olynu Mark Taylor.

Mae John Manders yn un o fawrion Clwb Rygbi’r Old Illtydians, ac fe gynrychiolodd e dîm ieuenctid Cymru, yn ogystal â chlybiau Heddlu’r De, Casnewydd, Caerdydd a Phontypridd.

Mae’n cael ei ddisgrifio’n “guriad calon” ei glwb.

Ers ymddeol o’r heddlu, fe fu’n asesydd yn ogystal â darlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gyfarwyddwr ar sawl cwmni.

Fe wnaeth dros 70% o glybiau Cymru bleidleisio, y nifer fwyaf erioed, wrth i bobol fwrw eu pleidlais yn ddigidol am y tro cyntaf yn hanes yr Undeb.

Cafodd hystingau eu cynnal ar y we.

Fe fydd yn dechrau ar y gwaith ar unwaith, a’i dymor yn dod i ben ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2021.

‘Eithriadol o falch’

“Dw i’n eithriadol o falch o gael fy mhenodi ac mae’n fraint enfawr cael gweithio ar gyfer rygbi Cymru ar y lefel yma,” meddai John Manders.

“Dw i wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth gan glybiau ledled Cymru a hoffwn sicrhau pawb y bydda i’n gwneud fy ngorau glas i ad-dalu’r ffydd sydd wedi cael ei ddangos ynof fi.

“Roedd hi’n gystadleuaeth wych a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi llwyfan i fi siarad, a hefyd i’r ddau ymgeisydd arall yn y ras sydd wedi helpu i godi proffil y swydd bwysig hon.

“I fi, mae’r gwaith caled yn dechrau yn fan hyn.

“Dw i’n freintiedig dros ben o gael bod yn y sefyllfa yma a dw i’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyfle ar ran gêm y clybiu ledled y wlad.”