Does gan dîm pêl-droed Caerdydd ddim pryderon ffitrwydd newydd ar drothwy gêm fawr yn erbyn Derby yn y Bencampwriaeth heno (nos Fawrth, Gorffennaf 14).

Mae’r Adar Gleision yn y chweched safle ar hyn o bryd, ond mae pedwar pwynt yn gwahanu saith tîm gyda thair gêm yn weddill yn y ras am y gemau ail gyfle.

Chwaraeodd yr asgellwr Nathaniel Mendez-Laing yn y golled o 2-0 yn erbyn Fulham nos Wener (Gorffennaf 10) ar ôl cael caniatâd i adael y garfan ar gyfer genedigaeth ei blentyn cyntaf.

Ond mae’n gobeithio cael ei gynnwys eto heno.

Bydd Lee Tomlin yn gwthio am le ar y cae ar ôl ymddangos am y chweched tro o’r fainc wedi iddo ddychwelyd ar ôl anaf i’w goes.

Fydd Duane Holmes ddim ar gael i Derby, ar ôl anafu llinyn y gâr.

Ond fe fydd yr ymosodwr Martyn Waghorn yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad tair gêm am gerdyn coch yn y gêm ddarbi yn erbyn Nottingham Forest.

Mae Andre Wisdom yn parhau i wella yn dilyn ymosodiad arno ar stryd yn Lerpwl.

Mae Derby driphwynt oddi ar y brig ar ôl colli dwy gêm o’r bron.