Mae’r Scarlets, Gleision Caerdydd, y Gweilch a’r Dreigiau wedi enwi eu timau ar gyfer y penwythnos cyntaf o gemau darbi fydd yn cael eu cynnal mewn stadiymau gwag.
Cafodd y Pro14 ei ohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig.
Bydd gemau darbi traddodiadol yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos olaf mis Awst yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.
Y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd
Steff Hughes fydd yn arwain y Scarlets ddydd Sadwrn tra bod Ken Owens, a gafodd ei benodi’n yn gapten y rhanbarth am y seithfed tymor yn olynol wythnos diwethaf, ar y fainc.
Doedd Rhys Patchell, Liam Williams, Jonathan Davies, Rob Evans, Ioan Nicholas, Tom Prydie, Tyler Morgan na Tom Phillips ddim ar gael i’w dewis i’r Scarlets oherwydd anafiadau.
Cadarnhaodd y Scarlets hefyd fod Aaron Shingler allan am 12 wythnos o ganlyniad i salwch yn ystod y cyfnod clo.
Bydd Corry Hill a Rhys Carré, sydd newydd ailymuno â Gleision Caerdydd, yn dechrau’r gêm ym Mharc y Scarlets.
- Tim y Scarlets
15 L Halfpenny, 14 J McNicholl, 13 S Hughes (Capten), 12 J Williams, 11 S Evans, 10 D Jones, 9 G Davies, 1 W Jones, 2 R Elias, 3 S Lee, 4 L Rawlins, 5 S Lousi, 6 B Thomson, 7 J Macleod, 8 U Cassiem.
Eilyddion: 16 K Owens, 17 P Price, 18 W Kruger, 19, J Ball, 20 J Davies, 21 K Hardy, 22 A O’Brien, 23 P Asquith.
- Tîm Gleision Caerdydd
12 H Amos, 14 J Adams, 13 H Millard, 12 B Thomas, 11 A Summerhill; 10J Evans, 9 T Williams, 1 R Carré, 2 K Dacey, 3 D Lewis, 4 C Hill, 5 R Thornton, 6 J Turnbull (Capten), 7 O Robinson, 8 W Boyde.
Eilyddion: 16 K Myhill, 17 R Gill, 18 K Assiratti, 19 S Davies, 20 S Lewis-Hughes, 21 L Williams, 22 G Smith, 23 M Morgan.
Y Gweilch yn erbyn y Dreigiau
Bydd y Gweilch yn croesawu’r Dreigiau i Abertawe ddydd Sul (Awst 23).
Rhys Webb sydd yn dechrau fel mewnwr i’r Gweilch, a hynny am y tro cyntaf ers iddo ailymuno â’r rhanbarth o Toulon.
Mae capten Cymru, Alun Wyn Jones, hefyd yn dechrau ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn y Pro14 ers mis Ebrill 2019.
Bydd canolwr Cymru Nick Tompkins a Joe Maksymiw yn dechrau i’r Dreigiau am y tro cyntaf.
- Tîm y Gweilch
15 D Evans, 14 G North, 13 O Watkin, 12 K Williams, 11 L Morgan, 10 S Myler, 9 R Webb, 1 N Smith, 2 S Parry, 3 T Botha, 4 A Beard, 5 A Wyn Jones, 6 O Cracknell, 7 J Tipuric (Capten), 8 M Morris
Eilyddion: 16 D Lake, 17 G Thomas, 18 N Thomas, 19 B Davies, 20 W Griffiths, 21 R Morgan-Williams, 22 J Thomas, 23 T Thomas-Wheeler
- Tîm y Dreigiau
15 D Howells, 14 O Jenkins, 13 N Tompkins, 12 J Dixon, 11 A Hewitt, 10 S Davies, 9 T Knoyle, 1 B Harris, 2 R Hibbard, 3 L Brown, 4 M Screech, 5 J Maksymiw, 6 B Fry, 7 T Basham, 8 R Moriarty
Eilyddion: 16 E Shipp, 17 C Maguire, 18 C Coleman, 19 J Davies, 20 A Wainwright, 21 L Baldwin, 22 A Robson, 23 A Warren