Enw llawn: Alan Paget (Mr.t.ricks)

Dyddiad geni: 9/10/65

Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr


Roedd colli ei fam yn un deg saith oed yn un o’r pethau anoddaf un i Alan Paget ei brofi yn ei fywyd, a chyngor ei fam sbardunodd e i ddilyn ei freuddwyd o berfformio fel clown proffesiynol, dewin a diddanwr plant – gyrfa mae wedi’i datblygu dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain bellach.

“Fe gollais i Mam pan oedd hi’n 41 oed, a finnau yn 17. Rydw i rŵan yn 58 oed, ond yn dal i’w cholli’n fawr,” meddai. “Roedd hi bob amser yn dweud, ‘gwnewch yr hyn rydych chi’n hoffi ei wneud, a wnewch chi fyth ddifaru’. Felly fe wnes i, a dod yn glown a diddanwr plant, ac rwy’ wedi caru pob munud”.

Wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Mr.T.Ricks yn gweithio ledled y de, yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a’r holl ardaloedd cyfagos o Went, trwy Fro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt.

‘Gwên’

Roedd gan Alan Paget, sy’n byw ym Maesteg, ddiddordeb mewn hud er pan oedd yn ifanc. Un o’i atgofion cynharaf yw gwylio syrcas Billy Smart ar y teledu gyda’i fam, a mwynhau Syrcas Chipperfield.

“Un o’r pethau gorau am weithio fel clown yw rhoi gwên ar wynebau plant,” meddai. “Dw i’n medru jyglo gyda thair pêl a pherfformio hud. Wnaeth Taffy y Clown helpu lot pan oeddwn i’n cychwyn allan.”

Ymhlith clowniau sy’n ei ysbrydoli mae Taffy, Lou Jacobs a Norman Wisdom.

Roedd Lou Jacobs yn glown Americanaidd enwog, sy’n cael ei ystyried yn un o’r ffigurau mwyaf eiconig a dylanwadol yn hanes clowniau. Cafodd ei eni yn yr Almaen ar Ionawr 1, 1903, ac yn ddiweddarach ymfudodd i’r Unol Daleithiau. Dechreuodd ei yrfa fel clown syrcas yn y 1920au, gan ennill poblogrwydd am ei arddull unigryw a’i amseru comig. Daeth yn aelod allweddol o’r Ringling Bros. a Barnum & Bailey Circus, lle bu’n perfformio am sawl degawd.

Roedd Norman Wisdom yn fwyaf adnabyddus am ei arferion comedi slapstick a’i bortread o gymeriad byrlymus a di-hap. Enillodd Norman Wisdom boblogrwydd yn y 1950au a’r 1960au, a serennodd mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Trouble in Store a The Bulldog Breed.

‘Llinell denau’

Petai Alan Paget yn cael gwireddu unrhyw freuddwyd o gwbl, perfformio yn y cylch syrcas gyda Lou Jacobs, Emmett Kelly, Charlie Cairoli, Coco y Clown fyddai honno.

Er bod Alan yn mwynhau gyrfa yn gwneud yr hyn mae’n ei garu erbyn hyn, mae wedi gweithio mewn sawl maes arall yn y gorffennol, gan gynnwys fel cymhorthydd mewn siop cigydd, Swyddog Diogelwch a labrwr ar safle adeiladu.

“Mae fy holl ddillad clown wedi’u gwneud i mi, ac rwy’ wedi defnyddio’r un colur ers i mi ddechrau. Ond rwy’n mwynhau edrych ar ffabrigau newydd er bod fy edrychiad yn aros yr un fath gan fy mod i’n hapus iawn ag o,” meddai.

“Mae’r llinell rhwng hapusrwydd a thristwch yn agos iawn. Mae’n llinell denau yn aml”.

“Dw i wedi cyfarfod pobol wych fel clown. Mi ges i gyfarfod Syr John Mills, Michael Sheen, Lance Berton, Wayne Dobson a chael bod yn Dr Who am nifer o benodau.

“Roeddwn i’n ymgynghorydd hudol ar y sioe gyntaf gyda Christopher Eccleston yn 2005 ac yna gyda’r cybermen gyfres neu ddwy yn ddiweddarach. Rydw i wedi perfformio mewn tua saith pennod yn gwneud pethau gwahanol.”