Mae Chris Cooke, capten Clwb Criced Morgannwg, wedi’i gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Hydref 2).
Mae’r wicedwr wedi sgorio cyfanswm o 515 o rediadau mewn dwy gystadleuaeth – Tlws Bob Willis, y gystadleuaeth pedwar diwrnod, a chystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, sy’n dod i ben ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston yfory (dydd Sadwrn, Hydref 3).
Mae wedi taro pum hanner canred yn ystod y tymor byr.
Yn sgil ei gyfraniad gyda’r bat, mae Cooke wedi sgorio 181 o bwyntiau yn nhabl y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr, a hefyd wedi gorffen ar frig y tabl maesu gyda 52 o bwyntiau.
Hefyd yn y tîm mae Jake Libby, oedd yn arfer chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC.
Y tîm yn llawn: Alastair Cook (Essex), Jake Libby (Swydd Gaerwrangon), Tom Lammonby (Gwlad yr Haf), Ben Duckett (Swydd Nottingham), Will Jacks (Surrey), Ryan Higgins (Swydd Gaerloyw), Craig Overton (Gwlad yr Haf), Simon Harmer (Essex), Darren Stevens (Swydd Derby), Josh Davey (Gwlad yr Haf)