Enillodd Caernarfon o ddwy gôl i un neithiwr (Medi 30) yn erbyn tîm newydd cyn chwaraewr y Cofis, Nathan Craig.

Dyma’r tro cyntaf i Nathan Craig ddychwelyd i’r Ofal ar ôl gadael am y Fflint dros yr haf.

Treuliodd Nathan Craig, a gafodd ei fagu tafliad carreg i ffwrdd o’r Ofal ac sy’n gyn-chwaraewr Everton a thîm rhyngwladol dan 21 Cymru, ddau gyfnod yn chwarae i’r Cofis.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb yn 2012, cyn symud i Torquay United a threulio cyfnod ar fenthyg gyda Dorchester Town.

Yna, dychwelodd i Gaernarfon yn 2014 a bu’n rhan allweddol o garfan y Cofis dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae tîm Caernarfon wedi bod yn fy nghalon erioed a hogyn Caernarfon fyddai,” meddai pan adawaodd.

“Dw i yn teimlo fy mod wedi llwyddo ym mhopeth dwi wedi ei wneud i Gaernarfon ac yn teimlo ei fod yn amser i symud ‘mlaen am her newydd.”

Dwy gôl mewn pedwar munud

Ond noson Caernarfon oedd hi wrth i dîm Huw Griffiths sgorio ddwy waith mewn pedwar munud i sicrhau’r triphwynt.

Rhoddodd Paulo Mendes y Cofis ar y blaen ar ôl 73 o funudau cyn i Cai Jones ei gwneud hi’n ddwy bedwar munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Richie Foulkes i’r ymwelwyr gyda munud i fynd, ond doedd hynny ddim yn ddigon i rwystro Caernarfon sicrhau ail fuddugoliaeth y tymor, sy’n eu gadael yn y pumed safle ar ôl pum gêm.