Bydd y canolwr, Willis Halaholo, yn chwarae ei gêm gyntaf mewn 11 mis pan bydd Gleision Caerdydd yn chwareu gêm agoriadol tymor newydd y Pro14 yn erbyn Zebre yn yr Eidal.

Roedd y canolwr, sy’n enedigol o Seland Newydd, wedi ei ddewis yng ngharfan Cymru yn erbyn y Barbariaid y llynedd – gêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw – cyn anafu ei goes wrth chwarae i’w ranbarth.

Bydd yn ymuno â Rey Lee-Lo yng nghanol y cae.

“Mae’n awyddus iawn i chwarae yng nghrys coch Cymru,” meddai prif hyfforddwr Gleision Caerdydd, John Mulvihill.

“Roedd amseru ei anaf yn anlwcus iawn; ar y pryd roedd yn cael ei gydnabod fel un o’r canolwyr gorau yng Nghymru ac roedd chwarae i Gymru yn rhywbeth roedd wedi gweithio‘n galed tuag ato.

Bydd Wayne Pivac yn enwi carfan Cymru ar gyfer yr gemau’r Hydref ddydd Mawrth nesaf (Hydref 3).

Gleision Caerdydd

Matthew Morgan; Josh Adams, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Hallam Amos; Jarrod Evans, Lloyd Williams; Corey Domachowski, Liam Belcher, Dmitri Arhip, Seb Davies, Cory Hill (C), Shane Lewis-Hughes, James Botham, Josh Turnbull.

Eilyddion: Kirby Myhill, Rhys Carré, Dillon Lewis, Ben Murphy, Olly Robinson, Lewis Jones, Jason Tovey, Garyn Smith.

Zebre

Junior Laloifi; Federico Mori,. Giulio Bisegni (C), Tommaso Boni, Mattia Bellini; Carlo Canna, Marcello Violi; Daniele Rimpelli, Oliviero Fabiani, Eduardo Bello, Mick Kearney, Leonard Krumov, Maxime Mbandà, Johan Meyer, Jimmy Tuivaiti.

Eilyddion: Massimo Ceciliani, Danilo Fischetti, Giosuè Zilocchi, Cristian Stoian, Lorenzo Masselli, Guglielmo Palazzanit, Antonio Rizzi, Jacopo Trulla.