Mae amheuon am ffitrwydd un o chwaraewyr newydd tîm rygbi Cymru cyn y gêm yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn (Tachwedd 30).
Fe fu’n rhaid i Willis Halaholo adael y cae wrth i’r Gleision golli o 14-11 yn erbyn Caerlŷr.
Roedd y canolwr, sy’n enedigol o Seland Newydd, ar ei orau yn ystod yr hanner cyntaf, ond fe fu’n rhaid iddo adael ar ôl 33 munud.
Y gêm rhwng Cymru a’r Barbariaid fydd gêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw ar ôl iddo olynu Warren Gatland, a fydd yn hyfforddi’r gwrthwynebwyr yn Stadiwm Principality.
Hadleigh Parkes ac Owen Watkin yw’r unig ddau ganolwr yn y garfan.
Gyda Jonathan Davies eisoes allan am hyd at chwe mis, gallai Scott Williams gael ei alw i’r garfan.
Mae Willis Halaholo yn gymwys i chwarae dros Gymru ar ôl bod yn byw yn y wlad ers tair blynedd.