Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, yn galw ar ei dîm i ymateb yn bositif i’r golled yn erbyn Millwall, wrth iddyn nhw deithio i Huddersfield nos Fawrth (Tachwedd 26).

Mae’n cyfaddef nad oedd yr Elyrch yn haeddu unrhyw beth o’r ornest yn Stadiwm Liberty ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 23), wrth i Jed Wallace daro chwip o gic rydd i’r rhwyd i gipio’r triphwynt i’r ymwelwyr.

Mae canlyniadau’r Elyrch ar eu tomen eu hunain o dan Steve Cooper yn destun siom ond nhw, ar yr un pryd, yw’r unig dîm sy’n ddi-guro oddi cartref yn y Gynghrair Bêl-droed, nid dim ond y Bencampwriaeth, y tymor hwn.

Mae’r Gynghrair Bêl-droed yn cwmpasu’r Bencampwriaeth, yr Adran Gyntaf a’r Ail Adran.

“Roedd yn ddiwrnod siomedig, does dim ffordd arall o’i ddisgrifio fe,” meddai Matt Grimes.

“Doedd yr un ohonon ni’n ddigon da, a doedden ni ddim yn haeddu unrhyw beth o’r gêm.”

‘Gwael’

Mae’r canlyniad yn gweld Abertawe’n colli unwaith eto ar ôl egwyl ar gyfer gemau rhyngwladol, ond dydy hynny ddim yn esgus, yn ôl y capten.

“Dw i’n credu ei bod hi’n hawdd edrych ar yr egwyl ryngwladol a beio hynny, ond allwch chi ddim dweud mai dyna’r rheswm – roedden ni jyst mor wael.

“Does dim byd y gallwn ni ei newid nawr.

“Roedden ni i gyd yn wael, rydyn ni’n gwybod hynny, mae’r staff yn gwybod hynny ac mae’r cefnogwyr yn gwybod hynny.

“Sut rydych chi’n ymateb sy’n bwysig.

“Os ydych chi’n teimlo drosoch chi eich hun ac yn dechrau cuddio, dim ond gwaethygu fydd pethau.

“Mae angen i ni daro’n ôl drwy gael canlyniad positif ddydd Mawrth a dechrau adeiladu rhediad da o gemau eto.”