Mae blynyddoedd gorau gyrfa Joe Rodon o’i flaen e o hyd, yn ôl Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.
Mae’r amddiffynnwr canol 22 oed o ardal Llangyfelach y ddinas wedi’i alw i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr, Iwerddon a Bwlgaria ac fe fu pryderon ymhlith y cefnogwyr ers tro y gallai gael ei ddenu i ffwrdd o’r clwb er mwyn datblygu ei yrfa ar lefel uwch na’r Bencampwriaeth.
Yn ôl Steve Cooper, mae e’n chwarae digon o gemau yng nghrys yr Elyrch erbyn hyn i fod yn deilwng o’i le yng ngharfan Cymru, a hynny ar ôl rhediad o anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf.
“Dw i wrth fy modd drosto fe,” meddai.
“Mae e wedi chwarae digon o gemau i haeddu’r alwad ac mae ei berfformiadau wedi bod yn dda.
“Dw i’n credu bod hynny i’w ddisgwyl hefyd.
“Mae e wedi dechrau gemau i ni, ac felly rydyn ni’n falch drosto fe.
“Gobeithio y bydd e’n cyflawni dros Gymru fel mae e’n gwneud gyda ni.
“Mae Joe yn dal i fod yn chwaraewr ifanc a gyda chwaraewyr ifainc, mae yna brofiadau newydd i ddod a photensial i’w gyflawni o hyd.
“Dw i ddim yn credu ei fod e erioed wedi bod ar ei orau oherwydd mae hynny eto i ddod.
“Y nod yw parhau i weithio’n galed gyda fe.
“Dw i wedi dweud droeon, mae e’n broffesiynol iawn ac fe fydd yn rhoi o’i orau i barhau i wella.”
Ffenest drosglwyddo’n cau
Gyda’r ffenest drosglwyddo’n cau ddydd Llun (Hydref 5), does dim rheswm i boeni y bydd e’n gadael y clwb, yn ôl Steve Cooper.
Mae e eisoes wedi’i gysylltu â Manchester United a West Ham ac o edrych ar record Abertawe o golli chwaraewyr yn niwedd y ffenest drosglwyddo yn y gorffennol, bydd Abertawe’n gobeithio y bydd modd dal eu gafael arno am beth amser eto.
“Does dim angen i fi boeni am hynny,” meddai’r rheolwr.
“Sïon yn unig yw unrhyw sôn sydd wedi bod.
“Dw i ddim yn credu ei fod e’n effeithio arno fe.”
Er y tawelwch o ran unrhyw drafodaethau pendant, mae Steve Cooper yn cydnabod y gallai golli unrhyw chwaraewr ar unrhyw adeg cyn diwedd y ffenest, ac y gallai Rodon fynd yn ei flaen i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.
“Mae Joe yn chwaraewr ifanc a dw i’n eitha’ sicr y bydd pobol wedi bod yn edrych arno fe,” meddai.
“Ond does dim byd ar hyn o bryd.
“Rydych chi’n dueddol o glywed pan allai rhywbeth ddigwydd.
“Ond does dim byd wedi dod gan neb.
“Mae e’n chwaraewr sydd â chryn botensial a dw i’n credu y gall e gyrraedd yr Uwch Gynghrair.”