Bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod y dyddiau nesaf.
Daeth y Brifysgol i’r penderfyniad yn gynharach heddiw (Medi 30) yn dilyn asesiad llawn o’r sefyllfa gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r asesiad wedi ystyried lefelau trosglwyddo yn lleol a chynlluniau “gofalus” y Brifysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb.
Ar ddechrau’r wythnos daeth y Brifysgol i’r penderfyniad i atal dysgu wyneb yn wyneb dros dro yn dilyn ansicrwydd ynghylch graddfa lledaeniad y feirws yng nghymuned y myfyrwyr, er mawr siom i nifer o’r myfyrwyr.
Ers gwneud y penderfyniad hwnnw mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn deall maint y clystyrau.
Erbyn bore heddiw, roedd y Brifysgol wedi nodi 12 achos o Covid-19 ymhlith y myfyrwyr.
Bydd gweithgareddau uwchraddegig yn ail-ddechrau yn ystod gweddill yr wythnos hon, tra bod dysgu wyneb yn wyneb i is-raddedigion yn ail-ddechrau ddydd Llun (Hydref 5).
Yn ogystal, bydd dysgu ar-lein yn parhau yr wythnos hon.
‘Nid yw bywyd am barhau yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno’
Wrth gyhoeddi bod dysgu wyneb yn wyneb yn ail-gychwyn yr wythnos nesaf, dywedodd yr Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure:
“Rwy’n hynod o falch o dderbyn cefnogaeth unfrydol ein holl bartneriaid i gyflwyno dysgu wyneb yn wyneb ar y campws yn unol â’r cynlluniau manwl yr oedden ni wedi’u gwneud. Mae’n newyddion ardderchog i ni a’n myfyrwyr.
“Er bod y mesurau yr ydym yn eu cymryd ar y campws wedi derbyn cefnogaeth lawn, mae’n rhaid i ni barhau i bwysleisio ar bawb na ddylen nhw gymryd hwn fel arwydd bod bywyd yn mynd i barhau yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno. Ni all.
“Mae Covid-19 yn cylchredeg yn ein cymuned, a dim ond drwy weithio gyda’n gilydd er budd pawb y bydd modd atal ei effeithiau niweidiol.”
Mae’r Brifysgol hefyd wedi pwysleisio mai eu blaenoriaeth yw iechyd a lles y myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach, ac yn pwysleisio pa mor hanfodol yw dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.