Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 27 Medi, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y tri diwrnod diwethaf (Medi 28-30) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn debygol o gael ei ddiwygio.

Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 30 Medi.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr yn darllen: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 27 Medi; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 27 Medi; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 20 Medi; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 20 Medi.

Blaenau Gwent 274.8 (192), 143.1 (100)

Merthyr Tudful 213.8 (129), 164.1 (99)

Rhondda Cynon Taf 184.0 (444), 150.0 (362)

Pen-y-bont ar Ogwr 106.8 (157), 94.5 (139)

Abertawe 100.0 (247), 44.9 (111)

Caerdydd 86.9 (319), 39.8 (146)

Sir Gaerfyrddin 66.7 (126), 45.0 (85)

Casnewydd 58.2 (90), 64.0 (99)

Sir y Fflint 53.8 (84), 31.4 (49)

Castell-nedd Port Talbot 53.0 (76), 18.8 (27)

Caerffili 51.4 (93), 67.4 (122)

Tor-faen 51.1 (48), 22.3 (21)

Conwy 46.1 (54), 32.4 (38)

Wrecsam 43.4 (59), 12.5 (17)

Bro Morgannwg 41.2 (55), 30.7 (41)

Sir Ddinbych 37.6 (36), 39.7 (38)

Ceredigion 23.4 (17), 4.1 (3)

Powys 21.9 (29), 7.6 (10)

Sir Fynwy 19.0 (18), 12.7 (12)

Gwynedd 14.5 (18), 9.6 (12)

Ynys Môn 10.0 (7), 35.7 (25)

Sir Benfro 8.7 (11), 9.5 (12)