Carcharorion Berwyn ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam “yw defnyddwyr mwyaf llinell ffôn y Samariaid yn y Deyrnas Unedig” yn ôl adroddiad diweddar y Bwrdd Monitro Annibynnol am y cyfnod Mawrth 2019 – Chwefror 2020.

Ond d’yw hynny ddim yn synnu Liz Saville-Roberts AS a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder.

Mae hi wedi bod yn cadw llygad ar y carchar ers ei agor ym mis Chwefror 2017, ac fe ddaru hi ymweld â’r lle rhyw fis cyn iddo agor.