Cyhoeddodd Ryan Giggs ei garfan ddydd Iau ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Lloegr, Iwerddon a Bwlgaria dros y deg diwrnod nesaf.

Roedd pob cefnogwr yn dal eu gwynt dros y penwythnos felly, yn gobeithio na fyddai’r un aelod o’r garfan yn dioddef anaf yn eu gemau olaf i’w clwb cyn y cyfnod rhyngwladol. Roedd rhai angen amser ar y cae wrth gwrs ond roeddem yn ddigon hapus i weld ambell un arall yn cael ei lapio mewn gwlân cotwm cyn Wembley nos Iau.

Dyma daro golwg ar hynt a helynt y Cymry i’w clybiau dros y dyddiau diwethaf, y rhai hynny yn y garfan ac ambell un arall.

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Prin iawn a oedd y munudau i chwaraewyr Cymru yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos hwn. Chwaraeodd Hal Robson-Kanu yr hanner awr olaf wrth i West Brom golli yn Southampton ddydd Sul ac fe ddechreuodd Tyler Roberts i Leeds yn erbyn Man City nos Sadwrn.

Er i Leeds sicrhau pwynt canmoladwy iawn yn erbyn City, roedd y Cymro wedi gadael y cae cyn i’w dîm unioni. Yn wir, Rodrigo, y chwaraewr a ddaeth i’r cae yn ei le a sgoriodd y gôl holl bwysig. Efallai y bydd Roberts yn ei chael hi’n anodd cadw ei le yn nhîm Marcelo Bielsa felly, ond ag yntau wedi bod yn chwarae’n gyson i dîm da, a gyda thair gêm mewn chwe diwrnod, bydd yn siŵr o gael munudau gan Giggs i Gymru.

Ni wnaeth Ben Davies ddechrau i Tottenham Hotspur wrth iddynt chwalu Man U ddydd Sul ond fe wnaeth ddod oddi ar y fainc am yr ugain munud olaf, gan ennill y gic o’r smotyn a arweiniodd at chweched gôl yr ymwelwyr yn Old Trafford.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Wayne Hennessey, Danny Ward, Ethan Ampadu i’w clybiau dros y penwythnos. Felly hefyd Daniel James wrth i’r adroddiadau yn ei gysylltu ef â throsglwyddiad o Man U i Leeds barhau.

Ni wnaeth yr un o Gymry Aston Villa na Lerpwl ddechrau’r gêm gynghrair rhwng y ddau dîm nos Sul ond fe wnaeth tri ohonynt chwarae yng Nghwpan y Gynghrair nos Iau.

Chwaraeodd Neil Taylor 90 munud i Villa wrth iddynt golli yn erbyn Stoke ac fe chwaraeodd Neco Williams a Harry Wilson i Lerpwl wrth iddynt fynd allan o’r gystadleuaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Arsenal. Yn anffodus i Wilson, y bachgen o Gorwen a fethodd y gic dyngedfennol i’r Cochion.

Mae adroddiadau’n cysylltu Wilson â symudiad parhaol i Burnley wedi mynd yn ddistaw dros y dyddiau diwethaf, ac felly hefyd y sïon fod Ben Woodburn ar ei ffordd i Hull yn yr Adran Gyntaf.

 

 

Y Bencampwriaeth

Parhau y mae dechrau da Abertawe i’r tymor yn y Bencampwriaeth a pharhau i chwarae eu rhan y mae’r Cymry yn y cefn. Chwaraeodd Connor Roberts, Ben Cabango a Joe Rodon unwaith eto wrth i’r Elyrch drechu Millwall o ddwy gôl i un ar y Liberty. Ac er mai cadw’r goliau allan yn y pen arall yw prif ddyletswydd Cabango, yr amddiffynnwr canol a sgoriodd y gôl fuddugol sydd yn cadw ei dîm yn bedwerydd yn y tabl.

Cymro arall a sgoriodd gôl Millwall yn digwydd bod, Tom Bradshaw yn gorffen yn daclus i unioni pethau’n gynnar yn yr ail gyfnod. Daeth yr olaf o dri chap Bradshaw yn erbyn Tsieina ym mis Mawrth 2018, yng ngêm gyntaf Giggs wrth y llyw ac ymddengys nad yw’r rheolwr ffansi’r gŵr o Dywyn er bod ei record sgorio yn y Bencampwriaeth yn un debyg iawn i Kieffer Moore a Hal Robson-Kanu.

Sôn am Kieffer Moore, gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Caerdydd ddydd Sadwrn, gyda’r blaenwr yn chwarae 90 munud yn erbyn Blackburn a Will Vaulkes yn dod i’r cae am ychydig funudau ar ddiwedd y gêm.

Mae Chris Mepham yn chwarae’n rheolaidd i Bournemouth ar hyn o bryd a chwaraeodd eto wrth iddynt drechu Coventry nos Wener. Mae’n ymddangos yn gynyddol debyg na fydd Dai Brooks yn gyd chwaraewr iddo am lawer eto. Mae’r adroddiadau diweddaraf yn ei gysylltu ef a symudiad yn ôl i’w gyn glwb, Sheffield United.

Un arall a oedd ddim yng ngharfan ei glwb dros y penwythnos er ei fod wedi ei enwi yng ngharfan Cymru a oedd Joe Morrell (Bristol City).

Cafodd Rhys Norrington-Davies ei enwi yn y garfan ryngwladol am y tro cyntaf yr wythnos hon ac fe ddathlodd gyda llechen lân fel rhan o amddiffyn Luton wrth iddynt drechu Wycombe. Dechreuodd Alex Samuel a Joe Jacobson i Wycombe.

Sgoriodd Sam Vokes y gôl fuddugol wrth i Stoke drechu Villa yng Nghwpan y Gynghrair nos Iau ond nid oedd lle i’r blaenwr yn y tîm brynhawn Sul wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Birmingham. Chwaraeodd tri Chymro arall i’r Potters serch hynny, Adam Davies yn y gôl a James Chester a Morgan Fox yn yr amddiffyn.

Chwaraeodd Shaun MacDonald wrth i Rotherham gael gêm gyfartal yn erbyn Huddersfield ac fe greodd Andrew Hughes un o goliau Preston mewn buddugoliaeth swmpus yn erbyn Brentford.

 

 

Cynghreiriau is

Chwaraeodd Dylan Levitt a Jonny Williams i Charlton mewn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn, Levitt yn dechrau a Williams yn dod i’r cae fel eilydd wedi’r egwyl.

Mae Cymro arall, Adam Matthews, wedi bod yn rhyffoddi gyda Charlton ond dywedodd y rheolwr, Lee Bowyer, yr wythnos hon fod golygon Matthews ar ganfod clwb yn y Bencampwriaeth a bod gan Charlton eu llygad ar arwyddo cefnwr de gwahanol. Yn ôl y sôn, efallai mai Chris Gunter yw hwnnw.

Fe helpodd Brennan Johnson Lincoln i aros ar frig yr Adran Gyntaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Blackpool ac fe chwaraeodd Lee Evans i Wigan wrth iddynt hwy drechu Doncaster yn yr un gynghrair.

 

 

Yr Alban a thu hwnt

Yn ôl tystiolaeth ei garfan ddiweddaraf, ymddengys fod Ryan Giggs yn parhau i anwybyddu Uwch Gynghrair yr Alban. Mae pedwar Cymro yn chwarae’n rheolaidd i dimau yn y pedwar uchaf yno ond nid oes golwg o’r un yn y darlun rhyngwladol.

Er nad yw Christian Doidge yn sgorio cymaint y tymor hwn o’i gymharu â’r tymor diwethaf, mae’n parhau’n ddylanwadol i Hibs ac ef a greodd eu trydedd gôl wrth iddynt drechu Hamilton nos Wener.

Chwaraeodd Ash Tylor, Ryan Hedges a Marley Watkins ym muddugoliaeth Aberdeen dros St. Mirren nos Wener, gyda Watkins yn sgorio un a chreu un.

Nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli y penwythnos hwn yn dilyn ei drosglwyddiad yno o Anderlecht ddydd Iau. Treuliodd yr amddiffynnwr y tymor diwethaf ar fenthyg gyda thîm mwyaf cŵl yr Almaen cyn dychwelyd yno’n barhaol yr wythnos hon.

Nid oedd Rabbi Matando yng ngharfan Schalke ychwaith wrth i’r sibrydion gynyddu fod asgellwr Cymru ar ei ffordd o Gelsenkirchen i glwb arall yn yr Almaen.

Cafodd Aaron Ramsey ei enwi yn nhîm Juventus i wynebu Napoli nos Sul ond ni fu’n rhaid iddo gicio pêl gan fod awdurdod iechyd lleol Napoli yn rhanbarth Campania wedi atal y tîm rhag teithio i Turin ar ôl i ddau o chwaraewyr y clwb brofi’n bositif am Covid-19.

Mae Juventus hefyd wedi cael profion positif ymhlith eu staff yr wythnos hon ac er nad oedd yr un o’r chwaraewyr wedi eu heffeithio mae’r garfan gyfan wedi cael ei rhoi mewn cwarantin, a all olygu na fydd Rambo’n gallu teithio i gynrychioli Cymru’r wythnos hon wedi’r cwbl.

 

Gwilym Dwyfor