Mae Hal Robson-Kanu wedi tynnu’n ôl o garfan Cymru oherwydd anaf i’w arddwrn.

Cafodd anaf wrth chwarae i’w glwb, West Brom, dros y penwythnos.

Daw hyn ar ôl i’r ymosodwr wneud tro pedol a dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol – chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru ers 2017 yn erbyn Bwlgaria fis diwethaf. 

Aaron Ramsey mewn cwarantîn

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd na fyddai Aaron Ramsey ar gael i chwarae yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Iau (Hydref 8) chwaith.

“Ni fydd Aaron Ramsey yn gallu ymuno â’r garfan tan ar ôl gêm Lloegr”, meddai’r gymdeithas mewn datganiad.

Mae ei dîm, Juventus, wedi mynd i mewn i gwarantîn wedi i ddau aelod o staff brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn obeithiol y bydd ar gael ar gyfer gêmau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

Oherwydd cyfres o anafiadau gwahanol ddim ond unwaith mae Aaron Ramsey wedi dechrau i Gymru ers dechrau 2019 – y gêm ragbrofol Ewro 2020 yn erbyn Hwngari pan sgoriodd ddwywaith.

Mae Gareth Bale eisoes yn absennol o’r garfan oherwydd anaf i’w ben-glin.