Gall gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru wneud cais am grant cymorth o £2,500.
Mae’r gronfa o £7m yn agor heddiw (Hydref 5) a bydd ceisiadau yn cael eu cynnal dros ddau gyfnod.
Daw hyn wedi i Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, alw am gymorth i weithwyr llawrydd creadigol yn yr haf.
Eglurodd bod hwn yn gyfle mawr i’r diwylliant chwarae rhan yn adferiad Covid yng Nghymru.
“Bydd yr addewid i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus yn caniatáu i’r [diwydiant] creadigol helpu i gynnwys celf a diwylliant ym mhopeth o ysbytai i ganol trefi, gan wella’r ffordd rydym i gyd yn byw”, meddai.
“Gobeithio mai dyma ddechrau ein bod yn symud tuag at system lle mae llawer mwy o werth yn cael ei roi ar ddiwylliant a chreadigrwydd – gan gefnogi’r rhai sy’n gwneud y gwaith hanfodol hwnnw’n well.”
Rhan bwysig o economi Cymru
“Mae’r sector llawrydd yn rhan mor bwysig o economi Cymru”, meddai Dafydd Ellis Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu helpu i gynnal gweithwyr llawrydd dros y cyfnod anodd hwn.
“Mae’r cymorth yn cydnabod cyfraniad yr unigolion hyn i’r economi, ein cymunedau a’r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru.”
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y grant?
Mae’r Gronfa’n agored i weithwyr llawrydd sy’n gweithio yn sectorau’r celfyddydau, y diwydiannau creadigol, digwyddiadau celf a threftadaeth, diwylliant a threftadaeth.
“Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i’r rhai sy’n gweithio ar draws y sector creadigol ac mae llawer wedi methu â chael mynediad i Gynllun Cadw Swyddi’r DU na’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth felly mae’r cyllid hwn yn achubiaeth lwyr i’n haelodau yng Nghymru”, meddai Siân Gale o Bectu Cymru, undeb sy’n cynrychioli gweithwyr yn y diwydiannau creadigol.
“Er bod y diwydiant teledu a ffilm yn dychwelyd i’r gwaith yn raddol, nid yw hyn yn wir am greadigol sy’n gweithio mewn theatrau a digwyddiadau byw sydd nid yn unig wedi helpu i wneud y diwydiannau creadigol yn un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yn economaidd ac yn ddiwylliannol yng Nghymru ond sy’n cael effaith gadarnhaol enfawr ar les ein cymunedau.”
Mae Tasglu Llawrydd Cymru hefyd wedi croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o werth a chyfraniad gweithlu llawrydd y sector diwylliannol yng Nghymru.
“Gobeithiwn y bydd y gronfa hon yn helpu gweithwyr llawrydd i oroesi’r argyfwng hwn”, meddai llefarydd ar ran Tasglu Llawrydd Cymru.
“Wrth symud ymlaen, credwn fod gan yr addewid llawrydd y potensial i gefnogi’r gweithlu a’n cymunedau i gyflawni eu llawn botensial.”