Mae disgwyl i 77 o gyn-weithwyr Laura Ashley gael gwaith yn y diwydiant dillad yn dilyn penderfyniad menter Fashion-Enter Ltd i agor canolfan gynhyrchu newydd ym Mhowys gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae Fashion-Enter Ltd, menter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn hyfforddi a gweithgynhyrchu, wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac wedi sicrhau cytundeb gyda’r manwerthwr ffasiwn ar-lein ASOS.

I ddechrau, bydd y gweithwyr yn helpu i gynhyrchu 10,000 dilledyn yr wythnos ar gyfer y cytundeb gyda ASOS, gan godi i 20,000 yr wythnos o fewn mis.

“Roedd nifer o’r pwythwyr yr ydym wedi eu cyflogi wedi bod yn gweithio i Laura Ashley am dros 35 mlynedd,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Fashion-Enter Ltd, Jenny Holloway.

“Hefyd, mae’n anodd dod o hyd i gynifer o bwythwyr profiadol yn unlle bellach, maen nhw fel aur.”

Bydd Fashion-Enter Ltd yn defnyddio Warws y Sioe Fawr, yn Y Drenewydd, i gynhyrchu dillad.

Mae hefyd yn bwriadu sicrhau mwy o waith lleol a buddsoddi yn y lefelau sgiliau lleol drwy sefydlu academi decstilau yn Y Drenewydd dros y misoedd nesaf.

“Mae ein llyfr archebion yn llawn”

Ychwanegodd Jenny Holloway: “Rydym yn hapus iawn o gael y cymorth a’r arweiniad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi golygu bod Fashion-Enter yn gallu cyflogi staff, ac rydyn ni’n dal i chwilio am 30 o bwythwyr eraill.

“Mae ein llyfr archebion yn llawn ar hyn o bryd, ac nid oes diwedd ar yr archebion.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:  “Dw i wrth fy modd bod Fashion-Enter Ltd wedi manteisio ar y cyfle hwn i ddefnyddio eu harbenigedd gwerthfawr ar y buddsoddiad pwysig hwn yn y Canolbarth, fydd yn golygu y bydd y traddodiad hwnnw yn parhau am flynyddoedd i ddod.

“Dw i hefyd yn falch y bydd ein cymorth nid yn unig yn golygu bod cyn-weithwyr Laura Ashley yn cael eu hail-gyflogi ar gyfnod o ansicrwydd economaidd o’r fath, ond bydd hefyd yn galluogi nifer o brentisiaid i feithrin sgiliau newydd, ac wrth wneud hynny yn cryfhau gwerth gweithgynhyrchu’r rhanbarth ymhellach hyd yn oed.

“Mae buddsoddiad Fashion-Enter Ltd mewn hyfforddiant ac uwchsgilio, a lles eu gweithlu, yn union y math o ymddygiad yr ydyn ni’n ceisio ei annog gyda’n Contract Economaidd.”