Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd canolfan brofi coronafeirws newydd yn agor ym Mangor.
Nid oes cyfyngiadau lleol mewn grym yng Ngwynedd er bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n sâl iawn ac yn gorfod cael triniaeth ysbyty.
Bydd y ganolfan brofi newydd, y cyntaf yng Ngwynedd, yn agor ym Mhrifysgol Bangor ymhen pythefnos.
Cyn hyn roedd rhaid i bobol sy’n byw mewn rhannau o Wynedd a Sir Fôn deithio i Landudno i gael prawf.
Er bod sir Conwy dan gyfyngiadau lleol nid yw hyn yn rhwystro pobol o Ynys Môn a Gwynedd i deithio yno i gael prawf.
Mae gan y bwrdd iechyd lleol hefyd dair uned profi symudol a chanolfannau profi cymunedol yn Ysbyty Alltwen ac Ysbyty Gwynedd, a ddefnyddir yn bennaf gan weithwyr iechyd – gallai y rhain gael eu defnyddio gan y cyhoedd pe bai cynnydd mewn achosion yn yr ardal.