Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi rhybuddio y bydd yna “Benderfyniadau anodd” i ddod wrth iddo geisio mantoli’r llyfrau yn dilyn argyfwng y coronafeirws.

Dywedodd Rishi Sunak wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol na fyddai modd iddo barhau i “fenthyg i gael ein hunain allan o dwll.”

Fe gyfaddefodd bod y pandemig eisoes wedi gorfodi gweinidogion  i wneud “penderfyniadau anodd” ond mae wedi rhoi addewid y bydd yn ceisio helpu cymaint o bobl ag sy’n bosib.

Fe ddefnyddiodd ei anerchiad i’r gynhadledd rithiol i ganmol y Prif Weinidog yn dilyn adroddiadau bod y ddau wedi gwrthdaro, ar ôl i Boris Johnson gadw draw o Dy’r Cyffredin pan oedd y Canghellor yn cyflwyno ei gynlluniau ar gyfer yr economi ym mis Medi.

Fe rybuddiodd Rishi Sunak mai dim ond “rhan o’r ffordd drwy’r” pandemig mae’r Deyrnas Unedig, a’i fod eisoes wedi effeithio’n “sylweddol ar ein heconomi a chymdeithas.”

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi clustnodi mwy na £190 biliwn i bobl, cwmnïau a gwasanaethau ond mae elfennau o’r cymorth hwnnw – gan gynnwys y cynllun ffyrlo sy’n dod i ben fis yma – yn dirwyn i ben.

Ni all unrhyw ganghellor ddiogelu pob swydd neu fusnes, meddai, ond ychwanegodd ei fod yn ymrwymo ei hun i un flaenoriaeth – “i greu, cefnogi ac ymestyn cyfleoedd i gynifer o bobl ag y galla’i.”

Mae gweinidogion eisoes wedi amlinellu cynlluniau i helpu pobl i ail-hyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd ac mae Rishi Sunak wedi ymestyn cynlluniau cymorth ariannol i gwmnïau.

Fe fydd mantoli’r llyfrau yn golygu toriadau neu godiadau treth yn y dyfodol ac mae Rishi Sunak wedi cydnabod y bydd angen gweithredu yn y tymor canolig.