Mae Llywodraeth Cymru yn “ystyried” gosod cyfyngiadau cwarantîn ar bobol sy’n teithio i Gymru o ardaloedd o’r Deyrnas Unedig sydd â lefelau uchel o’r coronafeirws.

Yn flaenorol, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi galw ar Boris Johnson i gyflwyno cyfyngiadau teithio ar bobol mewn ardaloedd o Loegr sydd dan gyfyngiadau lleol.

Yng Nghymru, rhaid i bobol beidio â mynd i mewn i ardal sydd dan gyfyngiadau, na’i gadael, heb esgus rhesymol.

“Bydd yn rhaid i ni ystyried y mater heddiw.”

Pan ofynnwyd i Vaughan Gething a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod cyfyngiadau cwarantîn ar bobl sy’n byw mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, dywedodd: “O ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig lle mae llawer o achosion, ydyn, rydyn ni wrthi’n ei ystyried.”

Ychwanegodd: “Bydd yn rhaid i ni ystyried y mater heddiw.

“Bydd yn rhaid i ni gael rhywfaint o gyngor gan y cynghorwyr gwyddonol a meddygol, a’r cynghorwyr iechyd cyhoeddus yma.

“A bydd angen i ni wedyn ystyried ai dyma’r cam cywir gan fod y mesurau rydym wedi’u cyflwyno yng Nghymru yn ymwneud ag ynysu ardaloedd lle mae mwy o achosion o’r coronafeirws a diogelu ardaloedd lle mae llai o achosion.

“Dyna’r sail resymegol [i’r hyn rydym wedi’i wneud].

“Mae’n gyson â’r dull y mae pob un o bedair gwlad y DU wedi’i ddefnyddio i gyfyngu ar deithio rhyngwladol a chwarantîn, lle rydym yn cydnabod bod ardaloedd lle ceir mwy o achosion mewn rhannau eraill o’r byd yn risg o ail-fewnforio’r coronafeirws, neu ei ledaenu ymhellach yn y DU.

“Mae gennym ni reoliadau cwarantîn ar deithio rhyngwladol.

“Felly i rai o’r ardaloedd â phroblem yng ngogledd Lloegr, er enghraifft y Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin, a Gorllewin Canolbarth Lloegr, pe byddent yn wledydd neu diriogaethau eraill, byddai gennym reoliadau cwarantîn iddynt ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.”

‘Siomedig nad ydym wedi cael ymateb i’r lythyr’

“Nawr, mae’n siomedig nad ydym wedi cael ymateb i lythyr [Mark Drakeford] ond rydym wedi gweld y cyfweliad gyda [Boris Johnson], lle nododd nad yw’n barod i wneud hynny ar hyn o bryd.

“Felly mae’n rhaid i ni wedyn ystyried ein cyfrifoldeb ein hunain, ein pwerau ein hunain, a sut y byddwn [yn gweithredu] mewn ffordd sy’n gymesur â’r risg a wynebwn.”

“Rydyn ni wrthi’n ystyried yr hyn y dylen ni ei wneud ac rydw i wedi bod yn trafod hyn y bore ma gyda’r Prif Weinidog [Mark Drakeford].

‘Pam rydyn ni’n gwneud cymaint o ffws am coronafirws?’

Wrth siarad yn y gynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw (dydd Llun, Hydref 5) atebodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, hefyd rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae wedi’u derbyn gan bobol yn ddiweddar am y coronafeirws.

Dywedodd Vaughan Gething fod pobol wedi bod yn holi: “Pam rydyn ni’n gwneud cymaint o ffws am y coronafirws?”

Eglurodd fod nifer y bobol sydd â’r feirws yn parhau i gynyddu ledled Cymru.

Eglurodd y Gweinidog Iechyd fod 73 o bobol ar gyfartaledd â’r coronafeirws bellach yn cael eu derbyn i’r ysbyty bob dydd.

“Mae nifer y bobol yn yr ysbyty â coronafeirws bron wedi dyblu yn ystod y pythefnos diwethaf ac yn anffodus iawn, mae nifer y bobol sy’n marw yn cynyddu wythnos ar ôl wythnos”, meddai.

“Nid oes gennym frechlyn ond mae ymchwil yn parhau,” meddai.

“Mae gan lawer o bobol sydd wedi gwella o coronafeirws broblemau iechyd parhaus.”

Newid yn gyflym iawn ers mis Awst

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau fideo sy’n dangos sut mae’r feirws wedi bod yn ymledu ar draws y wlad.

Eglurodd Vaughan Gething fod nifer y bobol sydd â’r feirws yn parhau i gynyddu ledled Cymru a bod pethau wedi newid yn gyflym iawn ers mis Awst.

Dim ond ychydig o achosion yn Wrecsam ac yn y de oedd bryd hynny.

Ond ar ddechrau mis Medi dechreuodd achosion ledu yn y de ac roedd yna hefyd glwstwr o achosion yng nghanolbarth Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, wrth i’r mis fynd yn ei flaen, fod y feirws yn ymledu ar draws y de, a dechreuodd achosion hefyd gynyddu yn y gogledd.