Mae achos o’r coronafeirws wedi ei gadarnhau mewn pumed ysgol gynradd ar Ynys Môn.

Daw hyn ar ôl i achosion gael eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell ac Ysgol Gymuned y Fali.

A nawr, mae disgybl sy’n mynychu Ysgol Parc y Bont wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddydd Sul (Hydref 4) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae disgyblion a staff perthnasol wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Dylai’r rhai sydd wedi eu cynghori i hunan-ynysu wneud cais am brawf coronafeirws os ydynt yn datblygu unrhyw rai o’r symptomau, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol, meddai’r gwasanaeth.

Maen nhw hefyd wedi cael eu cynghori i gadw llygad am symptomau’r feirws, megis peswch newydd neu gyson, tymheredd uchel neu golli synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu.

“Mae cyfraddau Coronafeirws yn is ar yr Ynys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym, yn anffodus, wedi’n hatgoffa na allwn orffwys gydag achos positif mewn plentyn ysgol ifanc arall,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion ac mae pob un mesur yn eu lle er mwyn ceisio cyfyngu ar ledaeniad posib y feirws.”

Lles disgyblion yn “flaenoriaeth”

Ychwanegodd: “Ein blaenoriaeth yw lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yma, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.”

Mae gwaith olrhain cysylltiadau yn parhau a bydd unrhyw sydd yn cael eu hadnabod fel cysylltiad o achos positif yn derbyn cyngor priodol.”