Heddiw, gwelwyd cryn ddadlau yng Nghymru ac yn Llundain ar gyfyngiadau’r coronafeirws, ac yn benodol am gyfyngu ar ymwelwyr i Gymru, o ardaloedd yn Lloegr â lefelau uchel o achosion.
Pan ofynnwyd i Vaughan Gething a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod cyfyngiadau cwarantîn ar bobl sy’n byw mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, dywedodd: “O ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig lle mae llawer o achosion, ydyn, rydyn ni wrthi’n ei ystyried.”
‘Llethr peryglus’
Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, oedd y cyntaf i ymateb i hynny, gan ddweud bod “pob math o gwestiynau i’w hateb” cyn cyflwyno cyfyngiadau cwarantin ar bobol sy’n teithio i Gymru o ardaloedd â lefelau uchel o drosglwyddiad Covid-19 yn Lloegr.
“Rwy’n credu ei bod yn llethr peryglus i’r Gweinidog Iechyd a’r Prif Weinidog fynd i lawr yma yng Nghymru ar y sail bod 80% o boblogaeth Cymru o dan ryw fath o gyfyngiad Covid”, meddai Andrew RT Davies.
“Os byddwch chi’n dechrau cyflwyno cyfyngiadau cwarantin o’r fath yng Nghymru, a yw hynny’n golygu y byddai gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yr hawl i wneud yr un peth i drigolion Cymru?
“Beth am y peiriannydd hwnnw sy’n gorfod dod i ysbyty yng Nghymru o’r tu allan i Gymru i drwsio peiriant cardiaidd a allai o bosibl fod yn byw mewn man dan gyfyngiadau yn Lloegr?
“Mae yna bob math o gwestiynau i’w hateb cyn i chi hyd yn oed ystyried gweithred mor ddramatig.”
“Rhaid i ni apelio ar bobl i ymddwyn yn gyfrifol ac yn synhwyrol, nid pentyrru cyfyngiad ar gyfyngiad arnyn nhw, a fydd yn ymosodiad ar ein rhyddid sifil.”
Data lleol
“Pe bawn i yn esgidiau’r Gweinidog Iechyd,” aeth Andrew RT Davies ymlaen, “byddwn yn edrych ar ddefnyddio’r holl ddata lleol sydd ar gael i gyflwyno cyfyngiadau lleol lle bo’r angen yn unig”, meddai Andrew RT Davies.
“Er bod y data ar gael, dyw hyn ddim yn digwydd yng Nghymru.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur ryddhau data cymunedol er mwyn galluogi i ni graffu ar gyfyngiadau sirol.”
“Nonsens llwyr”
Aeth Paul Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, ymhellach fyth gan ddisgrifio datganiad Mr Gething fel “nonsens llwyr”.
“Mae ceisio cyfyngu ar bobl yn teithio ledled y Deyrnas Unedig yn beryglus dros ben,” meddai.
“Ydyn nhw’n bwriadu atal pobl ar y ffin? A oes ganddynt y pwerau i wneud hynny? Yr wyf yn amau na fydd.
“Sut maen nhw’n bwriadu cwarantinio pobl a oedd ond yn teithio o un ardal risg isel yng Nghymru i un arall?
Rwy’n credu ei fod yn nonsens llwyr.”
“Rwy’n credu bod angen i ni ddibynnu ar synnwyr cyffredin pobl. Ni ddylai pobl fod yn teithio os nad oes rhaid iddynt wneud hynny.
“Dyna’r canllawiau yma yng Nghymru, a hoffwn feddwl y bydd pobl yn defnyddio eu synnwyr cyffredin ac yn gwneud hynny,” ychwanegodd.
“Angen i ni weithredu’n gyflymach ac yn gallach”
Mewn ymateb i’r cwestiwn a ddylai Llywodraeth Cymru osod cyfyngiadau ychwanegol ar bobl sy’n teithio o ardaloedd o Loegr sydd â nifer uchel o achosion, dywedodd Adam Price AoS, Arweinydd Plaid Cymru:
“Rydym wedi galw’n gyson am fesurau i gyfyngu ar deithio i ardaloedd lle mae nifer isel o achosion Covid-19. Mae hyn yn wir am deithio yng Nghymru ac i Gymru ac yr wyf wedi codi’r mater hwn gyda’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] am bythefnos yn olynol.
“Ar adeg pan fo angen i ni weithredu’n gyflymach ac yn gallach i ddileu’r feirws, mae’n drueni ei bod wedi cymryd gwrthodiad esgeulus Llywodraeth y Deyrnas Unedig […] i ysgogi Llywodraeth Cymru i weithredu.”
Alun Cairns a Matt Hancock
Yn y cyfamser, yn Senedd San Steffan, bu Alun Cairns yn rhybuddio bod y “myrdd” o wahanol fathau o gyfyngiadau “yn gallu mynd yn ddryslyd”.
Cytuno wnaeth Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, gan ddweud wrth Dŷ’r Cyffredin: “Yr ateb cryno yw ‘ydi’… rwy’n credu bod y cynigion rydym yn gweithio drwyddynt ac y byddaf yn cyflwyno i’r Tŷ hwn yn ddull symlach o ymdrin â’r camau lleol sydd eu hangen, rydym wedi rhannu’r dull hwnnw gyda’r gweinyddiaethau datganoledig.”
Ychwanegodd Mr Hancock: “Dyma’r math o ddull a fyddai’n symleiddio [pethau] ymhellach pe bai’n cael ei wneud ledled y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs, penderfyniad i Lywodraeth Cymru yw hynny yng Nghymru ac i’r [llywodraethau] datganoledig oherwydd bod penderfyniadau iechyd y cyhoedd wedi’u datganoli.
“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio, wel… maent yn gweithio gyda ni, a byddwn yn annog (Mr Cairns), sy’n llais cryf iawn yng Nghymru, i geisio perswadio Llywodraeth Cymru i gymryd y math hwnnw o ymagwedd ar draws y dywysogaeth gyfan.”
Cefndir
Yn flaenorol, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi galw ar Boris Johnson i gyflwyno cyfyngiadau teithio ar bobol mewn ardaloedd o Loegr sydd dan gyfyngiadau lleol.
Yn wahanol i Loegr, yng Nghymru rhaid i bobol beidio â mynd i mewn i ardal sydd dan gyfyngiadau, na’i gadael, heb esgus rhesymol.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru ddydd Gwener (Hydref 2) fe wnaeth Boris Johnson wrthod galwad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
“Dydw i ddim eisiau gosod cyfyngiadau teithio ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol”, meddai Boris Johnson.
“Rydym oll yn un wlad – dylai pobl ddefnyddio’u synnwyr cyffredin.”