Mae Andrew Jones, 53, wedi cael ei ganfod yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe, o fwyafrif o 11-1, o lofruddio Michael O’Leary, 55, am ei fod yn cael perthynas gyda’i wraig.
Cymerodd y rheithgor dros 13 awr i ddod i benderfyniad.
Dywedodd yr erlyniad fod Michael O’Leary wedi ei ddenu i’r fferm anghysbell yr oedd yn berchen arni drwy anfon negeseuon testun o ffôn ei wraig, Rhiannon.
Cyn i Andrew Jones ei saethu a chludo’i gorff i’w iard adeiladu a’i losgi fis Ionawr.
Clywodd y llys hefyd fod darn o goluddyn dynol mewn drwm olew ar eiddo Andrew Jones yng Nghaerfyrddin yn perthyn i Michael O’Leary.
Wrth ei groesholi ar ran yr erlyniad, cyhuddodd William Hughes QC y diffynnydd o newid ei stori i’r rheithgor wrth i’r dystiolaeth “ddod yn gryfach yn eich erbyn”.
Diolch i’r rheithgor
Wrth siarad â Karim Khalil QC, oedd yn cynrychioli Andrew Jones, dywedodd Mrs Ustus Jefford: “Rwy’n credu bod Mr Jones wrthi’n prosesu dyfarniad y rheithgor.”
Wrth ryddhau’r rheithgor, dywedodd y barnwr wrthynt: “Diolch yn fawr am yr amser a’r sylw rydych wedi’i roi i’r mater hwn.
“Dywedais wrthych ar y dechrau mai ychydig iawn o faterion mwy difrifol y gellir eu rhoi i chi fel rheithgor na chyhuddiad o lofruddiaeth.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am roi o’ch amser fel y gallai Mr Jones gael yr achos teg a phriodol yr oedd ganddo hawl iddo, ond hefyd gallai teulu Michael O’Leary weld y broses honno’n cael ei chynnal a chyfiawnder yn cael ei wneud a’ch dyfarniad yn cael ei gyflawni.”
Carchar am oes
Aeth Mrs Ustus Jefford ymlaen: “Rydych wedi dod o hyd i Mr Jones yn euog o lofruddiaeth. Mae’n debyg y gwyddoch mai’r unig ddedfryd y gallaf ei phasio o dan yr amgylchiadau hynny yw carchar am oes.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bennu […] isafswm […] y cyfnod o amser – y tymor lleiaf – y bydd yn rhaid i Mr Jones ei dreulio yn y carchar cyn y gellir hyd yn oed ystyried ei ryddhau ar drwydded.”