Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson wedi cadarnhau drachefn y bydd San Steffan yn ceisio adfer cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y prosiect.

Mewn cyfweliad gyda ITV Wales, dywedodd Boris Johnson fod y ffordd liniaru “yn sicr yn un o’r pethau y byddwn yn edrych ar ei wthio ymlaen.”

Cyfrifoldeb gweinidogion yng Nghaerdydd yw ffyrdd ac mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud droeon na fydd tro pedol.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, hefyd wedi rhannu eu pryderon am y Bil.

“Yn sicr bydd hynny yn un o’r pethau byddwn yn edrych i’w wthio ymlaen”

Ond mae Boris Johnson hefyd wedi ailadrodd ei fod yn bwriadu ffeindio ffordd o adfer y prosiect, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi’r pwerau iddyn nhw wneud hynny.

Dywedodd Boris Johnson fod y bil yn “un o’r pethau fydd yn ein galluogi i gryfhau ein cefnogaeth i bobol Cymru, er enghraifft wrth wario ar drafnidiaeth.”

Gofynnwyd iddo a oedd hynny yn golygu y byddai gweinidogion yn Llundain yn gwthio’r prosiect yn ei flaen gyda chefnogaeth Aelodau Seneddol Ceidwadol, ond gyda Llywodraeth Cymru’n parhau i wrthwynebu.

“Rydym yn bwriadu edrych ar brosiectau megis y ffordd liniaru, ac mae’n rhaid imi ddweud ei bod hi’n anghredadwy bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i wario £144 miliwn ar astudiaeth… ac yna’i ffeilio [i ffwrdd],” meddai.

“Felly byddwn yn edrych ar y ffordd liniaru ac edrych ar sut i liniaru tagfeydd yn nhwneli Brynglas… yn sicr bydd hynny yn un o’r pethau byddwn yn edrych i’w wthio ymlaen.”

“Mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi wfftio sylwadau Boris Johnson.

“Nid yw hwn yn fater i’r Prif Weinidog. Mae’r penderfyniad i adeiladu ffordd liniaru’r M4 yn fater i Gymru ac mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud,” meddai.