Mae awdurdodau Ffrainc wedi gwahardd pobol rhag ymgynnull ac wedi cau tafarndai ym Mharis wrth i achosion o’r coronafeirws gynyddu’n gyflym.

Cyhoeddodd pennaeth heddlu Paris, Didier Lallement, y byddai’r cyfyngiadau newydd yn parhau am o leiaf pythefnos.

“Rydym yn addasu i realiti’r feirws yn gyson ac yn cymryd mesurau er mwyn arafu ei ledaeniad,” meddai.

O ddydd Mawrth (Hydref 6), bydd tafarndai Paris a’r cyffiniau yn cau a bydd partïon myfyrwyr a digwyddiadau mewn sefydliadau sy’n agored i’r cyhoedd yn cael eu gwahardd.

Fodd bynnag, bydd bwytai yn cael aros yn agored o dan amodau llym.

Bydd cyfleusterau chwaraeon o dan do, gan gynnwys pyllau nofio, ddim ond yn agored i blant o dan 18 oed ac mae campfeydd eisoes wedi cau.

Bydd sinemâu, theatrau ag amgueddfeydd yn cael aros yn agored gyda rheolau hylendid llym, tra bod ffeiriau a sioeau proffesiynol yn cael eu gwahardd.

Dim ond 1,000 o bobol y dydd fydd yn cael mynd i weld digwyddiadau chwaraeon, gan ganiatáu i’r twrnament tenis Roland-Garros (French Open) gael mynd yn ei flaen yr wythnos hon.

3,500 o achosion newydd bob dydd

Mae cyfarwyddwr yr Awdurdod Iechyd Rhanbarthol, Aurelien Rousseau, wedi dweud bod oddeutu 3,500 o achosion newydd yn cael eu cofnodi bob dydd yn ardal Paris, ac mae 36% o wlâu Unedau Gofal Dwys yr ardal yn llawn cleifion coronafeirws.

Ddydd Sadwrn (Hydref 3) cofnododd awdurdodau iechyd Ffrainc 16,972 o achosion newydd o’r coronaferiws.

Hwn yw’r nifer dyddiol mwyaf ers i’r wlad ddechrau cynnal profion eang.

Mae’r wlad gyfan wedi cofnodi 32,230 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronaferiws ers dechrau’r pandemig.