Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud ei fod yn bryderus am gynnydd mewn achosion o’r coronaferiws yng Ngwynedd.

Nid oes cyfyngiadau lleol mewn grym yng Ngwynedd er bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n sâl iawn ac yn gorfod cael triniaeth ysbyty.

Ddydd Sul (Hydref 4) cafodd 99 achos newydd o’r coronafeirws ei gofnodi ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda 21 o’r rhain yng Ngwynedd.

Ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae’r niferoedd yn uwch gan fod “oddeutu 2,000 o ganlyniadau profion o Labordai Goleudy Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig wedi’u hoedi.”

“Mae hyn yn golygu bod nifer y profion ddydd Sul (Hydref 4) yn amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru,” meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Achosion mewn ysgol

Daw hyn ar ôl i aelod o staff mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mae dosbarth cyfan yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, bellach yn hunan-ynysu.

Nid yw’n glir faint o ddisgyblion sydd wedi eu heffeithio.