Mae nam technegol oedd yn golygu bod bron i 16,000 o achosion o Covid-19 heb eu cofnodi wedi arwain at oedi yn yr ymdrechion i gysylltu efo pobl oedd wedi dod i gysylltiad ag eraill sydd wedi cael prawf positif am y firws.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr roedd y nam technegol wedi golygu bod 15, 841 o achosion rhwng Medi 25 a Hydref 2 heb eu cynnwys mewn cofnod dyddiol o achosion o’r coronafeirws.

Dywed swyddogion bod yr achosion wedi cael eu trosglwyddo i system Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd “yn syth” ar ôl i’r mater gael ei ddatrys.

Cafodd pob un o’r achosion eu trosglwyddo i’r system olrhain erbyn 1yb ddydd Sadwrn (Hydref 3) gan olygu oedi posib o fwy nag wythnos cyn cysylltu gyda miloedd o bobl oedd wedi dod i gysylltiad â’r firws ac sydd bellach yn gorfod hunan-ynysu.

Mae’r nam technegol hefyd yn golygu bod cyfanswm yr achosion dyddiol sy’n cael eu cofnodi gan y Llywodraeth wedi bod yn is na’r cyfanswm cywir dros yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Lafur Jonathan Ashworth bod hyn yn “shambls ac fe fydd, yn ddealladwy, wedi codi ofn ar bobl ar draws y wlad.

“Fe ddylai Matt Hancock ddod i Dy’r Cyffredin ddydd Llun er mwyn esbonio beth ar y ddaear sydd wedi digwydd, pa effaith mae hyn wedi’i gael ar ein gallu i atal y firws a beth mae’n bwriadu ei wneud i ddatrys [y system] profi ac olrhain.”