Roedd y galw am geir newydd wedi gostwng 4.4% fis diwethaf o’i gymharu â mis Medi 2019, gan gyrraedd ei lefel isaf ers 21 mlynedd, yn ôl Cymdeithas Gwneuthurwyr a Gwerthwyr Ceir (SMMT).

Cafodd tua 328,041 o geir newydd eu cofnodi yn y Deyrnas Unedig ym mis Medi, gostyngiad o 4.4% ar y cyfanswm o 343,255 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr SMMT Mike Hawes ei bod wedi bod yn flwyddyn “dymhestlog” a bod y diwydiant ceir wedi bod yn “wydn” ond nad oedd wedi cael ei adfer.

“Er gwaetha hwb mewn platiau rhif newydd, cyflwyno ceir newydd a chynigion arbennig, mae hyn yn parhau’r mis Medi gwaethaf ers cyflwyno’r system dau-blât yn 1999.

“Oni bai bod y pandemig yn dod o dan reolaeth a bod hyder busnesau a chwsmeriaid yn cael ei adfer, mae’r tymor byr yn edrych yn heriol iawn.”