Mae Cineworld wedi dweud y bydd hyd at 45,000 o’u gweithwyr yn fyd eang yn cael eu heffeithio gan eu cynlluniau o gau eu sinemâu dros dro yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau – dwy farchnad fwya’r cwmni.
Fe fydd mwy na 600 o safleoedd yn cau ar draws y ddwy wlad o ddydd Iau ar ôl i’r diwydiant gael ergyd yn sgil penderfyniad stiwdios MGM a Universal i ohirio rhyddhau’r ffilm James Bond ddiweddaraf.
Fe gyhoeddwyd ddydd Gwener bod y ffilm No Time To Die wedi’i gohirio am yr ail waith yn sgil y pandemig Covid-19. Roedd disgwyl i’r ffilm gael ei dangos ym mis Tachwedd ond fe fydd nawr yn cael ei rhyddhau ar Ebrill 2.
Dywed Cineworld y bydd yn cau 127 o safleoedd Cineworld a Picturehouse yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru fe fydd sinemâu’r cwmni yng Nghaerdydd, Casnewydd, Llandudno a Brychdyn yn Sir y Fflint yn cau.
Fe fydd 536 o sinemâu Regal yn cau yn yr Unol Daleithiau.
Roedd gwerth cyfrannau’r busnes wedi gostwng hyd at 57% yn dilyn adroddiadau dros y penwythnos.
Nid yw’r cwmni wedi manylu faint o swyddi sydd mewn perygl yn y DU ond mae lle i gredu y gallai 5,500 o weithwyr gael eu heffeithio.
Dywedodd y prif weithredwr Mooky Greidinger nad oedd yn benderfyniad hawdd “ac ry’n ni wedi gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau ein bod yn gallu ail-agor yn ddiogel ac yn gynaliadwy yn ein holl farchnadoedd.”