Mae’r cwmni sinema Cineworld wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau eu drysau ar ôl y cyhoeddiad ynghylch yr oedi cyn cyhoeddi’r ffilm James Bond newydd.

Roedd disgwyl i’r ffilm fod ar gael i sinemâu erbyn mis nesaf, ond daeth cadarnhad erbyn hyn na fydd yn barod tan y gwanwyn.

Yn ôl y Sunday Times, mae disgwyl i’r cwmni ddweud wrth Lywodraeth Prydain nad oes modd iddyn nhw barhau i ddangos ffilmiau wrth i stiwdios ohirio rhyddhau ffilmiau newydd yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae gan y cwmni 128 o sinemâu yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys pump yng Nghymru.

Mae lle i gredu bod 5,500 o swyddi yn y fantol yn sgil y penderfyniad, ac mae staff yn grac ynghylch y ffordd mae’r cwmni wedi eu trin nhw ers i sinemâu orfod cau.

Mae rhai yn dweud iddyn nhw gael eu “bradychu”, ac mae undeb Bectu wedi beirniadu’r cwmni am fynd at y wasg yn hytrach na hysbysu staff yn uniongyrchol.

Mae penaethiaid cwmnïau sinema eraill wedi mynegi pryder am y dyfodol, fisoedd yn unig ar ôl i Lywodraeth Prydain addo pecyn cymorth gwerth mwy na £1.5bn i helpu’r celfyddydau.

No Time To Die fydd y ffilm nesaf yn y gyfres James Bond, a Daniel Craig yn parhau yn y rôl.