Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cwmni Great Point wedi ymrwymo i redeg Seren Stiwdios ger Caerdydd.
Bydd Great Point, sef busnes sydd a’i swyddfeydd yn Llundain ac sy’n buddsoddi yn y cyfryngau, yn rheoli’r stiwdio am 10 mlynedd, gydag opsiwn i ehangu’r ganolfan.
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac sy’n gyfrifol am Ddiwylliant yn Llywodraeth Cymru, yn “falch iawn o groesawu’r” cwmni i Gymru.
Cafodd Seren Stiwdios eu hadeiladu a’u datblygu gan Lywodraeth Cymru yn 2015, ac ers hynny mae cynyrchiadau megis The Crown, Sherlock, Doctor Who a The Huntsman wedi cael eu ffilmio yno.
Y cynlluniau
Seren Stiwdios fydd y drydedd stiwdio i gael ei rheoli gan Great Point, ac yn ôl Llywodraeth Cymru mae eu haddewid i ddatblygu’r safle yng Nghaerdydd yn arwydd o’u hymrwymiad i “adeiladu ac i reoli cyfleusterau cynhyrchu o’r radd flaenaf mewn dinasoedd cynhyrchu allweddol.”
Daw’r newydd wedi i Great Point gyhoeddi eu bod am adeiladu dwy stiwio yn Efrog Newydd – un yn Buffalo a’r llall yn Yonkers.
Mae disgwyl i’r cwmni gymryd yr awenau ar gyfer Seren Stiwdios yn ystod y flwyddyn nesaf, ac mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ehangu’r ganolfan a’r safle.
Fel rhan o’r cynlluniau, mae’n fwriad gan Great Point ehangu’r llwyfannau a’r swyddfeydd, yn ogystal â rhentu offer, a gwasanaethau arlwyo, glanhau a diogelwch.
Ynghyd â chreu swyddi lleol, mae’r cwmni’n disgwyl y bydd hyn yn denu rhagor o gynyrchiadau o’r radd flaenaf i Gymru.
Dywedodd Jim Reeve, cyd-sylfaenydd Great Point: “Mae gan ganolfan Seren Stiwdios hanes cyfoethog ac mae’n cynnig y cyfleusterau cynhyrchu gorau yn y rhanbarth.
“Rydyn ni wrth ein boddau cael archwilio’i phosibiliadau.”
Ychwanegodd Robert Halmi, Cadeirydd a chyd-sylfaenydd y cwmni, bod y stiwdios yn cynnig “gofod ffilmio gwych,” a “dinas Caerdydd a’r wlad o’i hamgylch yn cynnig lleoliadau hardd, amrywiol a chyfareddol ar gyfer ffilmio.”
“Gwella” y sector creadigol
Croesawodd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, y newyddion gan ddweud ei fod yn “falch iawn o groesawu Great Point i Gymru wrth iddo sefydlu ei stiwdio gyntaf yn y Deyrnas Unedig, a hynny oherwydd ei fod yn cynnig mynediad at rwydwaith byd-eang o gysylltiadau yn y diwydiant ac at gyfleoedd cyffrous.
“Bydd sut mae Great Point yn mynd ati i gefnogi a datblygu’r gadwyn gyflenwi leol, ynghyd â’i ymrwymiad i addysg a mentora, yn gwella mwy ar y sector creadigol yng Nghymru.
“Bydd Seren Stiwdios Great Point yn golygu y bydd gan Gymru hyd yn oed fwy o enw da fel lleoliad a ffefrir ar gyfer cynhyrchiadau, a bydd hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd gyrfa a chyflogaeth.”