Mae Ben Thomas, cyn-gyflwynydd rhaglen newyddion i blant ar S4C, wedi ei garcharu am ddeng mlynedd a phedwar mis am droseddau rhyw yn erbyn plant ac oedolion.

Plediodd Ben Thomas, sy’n 44 ac o Sir y Fflint, yn euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, i 40 o gyhuddiadau a ddigwyddodd rhwng 1990 a 2019.

Mae NSPCC Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn gytûn iddo “gamddefnyddio” ei rôl fel gweinidog.

Roedd y troseddau’n cynnwys ymosodiadau rhywiol, sbecian a chreu delweddau anweddus o blant.

Digwyddodd y troseddau, yn erbyn dynion a bechgyn, yn Sir Amwythig, Llundain, Romania a gogledd Cymru.

“Effaith andwyol ar nifer o bobol”

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd rhaglen newyddion i blant o’r enw  Ffeil, roedd Ben Thomas yn weinidog yn yr eglwys.

Symudodd i Lundain i fod yn weinidog, cyn dychwelyd i Gymru yn 2008 er mwyn pregethu yng Nghricieth.

Dywedodd llefarydd ar ran NSPCC Cymru: “Fel gweinidog, byddai nifer fawr o bobol wedi ymddiried a pharchu Ben Thomas, ond cymerodd fantais o’i sefyllfa er mwyn cael mynediad at bobol ifanc a’u defnyddio er mwyn ei bleser rhywiol.

“Bydd ei droseddau yn cael effaith andwyol ar nifer o’r bobol a gafodd eu treisio ganddo, ac mae’n hanfodol eu bod yn cael cymorth er mwyn gallu symud ymlaen â’u bywydau.

“Diolch byth, mae ymosodiadau Ben Thomas wedi dod i ben erbyn hyn ac mae’n wynebu amser yn y carchar,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n hynod bwysig bod unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio yn teimlo’n saff wrth roi gwybod i’r heddlu am y drosedd, dim bwys pryd ddigwyddodd y drosedd honno, ac yn gwybod y bydd pobol yn gwrando.”

“Camddefnyddiodd ei safle fel gweinidog”

Wrth ymateb i’r ddedfryd, dywedodd Gareth Evans, Ditectif Brif Uwch-arolygydd dros dro i Heddlu Gogledd Cymru, ei fod yn croesawu’r cyfnod dan glo.

“Camddefnyddiodd ei safle fel gweinidog yn yr eglwys – lle ddylai o fod wedi rhoi hyder a gobaith i bobol ifanc, mae o wedi eu cam-drin yn rhywiol ac achosi lot o ddifrod.

“Mae wedi bod yn anodd iawn esbonio i bobol beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, ac yn aml mae hynny wedi cael effaith fawr ar lot o’r unigolion.”