Mae Jordan Brown wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Jordan Davies.

Bydd y dyn 25 oed o’r Barri dan glo am o leiaf 24 mlynedd wedi’r ddedfryd yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Hydref 2).

Bu farw Jordan Davies, oedd yn 23 oed, ar ôl cael ei drywanu ar Heol Holton yn y Barri fis Rhagfyr diwethaf.

Dyn tawel a swil”

Wrth ddiolch i Heddlu De Cymru, dywedodd teulu Jordan Davies ei fod yn “ddyn tawel a swil a byddai’n well ganddo eistedd a gwrando nag arwain,

“Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru, y tîm cyfreithiol a’r rheithgor am ddod i’r penderfyniad cywir.”

Diolchodd y teulu i’r “holl dystion a gymerodd eu hamser i roi tystiolaeth, a’r holl ffrindiau a theulu a gefnogodd [y teulu] drwy gydol y cyfnod anodd yma.”

“Gallwch achub bywyd rhywun drwy siarad.”

Mewn datganiad dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Powell, Uwch Swyddog Archwilio Heddlu De Cymru, bod y ddedfryd o garchar yn dod â’r archwiliad i lofruddiaeth Jordan Davies “i ben.”

“Yn dilyn ffrwgwd gyda’i ffrind ar y pryd, Jordan Brown, cafodd ei drywanu deirgwaith gydag un anaf angheuol i’w frest.

“Cwympodd Jordan Davies i’r llawr, a gadawodd Jordan Brown gan adael ei ddillad ar y ffordd ger llaw.

“Er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd a thriniaeth feddygol gan arbenigwyr, ni oroesodd Jordan Davies,” esboniodd.

“Mae teulu Jordan Davies wedi dangos cryfder ac urddas eithriadol, ac maen nhw wedi aros yn amyneddgar am gyfiawnder er gwaethaf gohiriadau yn sgil y pandemig.

“Gobeithiwn y bydd y ddedfryd yn eu helpu i ddod dros y trychineb yma.

“Mae’r digwyddiad trist yma, eto fyth, yn amlygu canlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol troseddau â chyllill,” meddai’r Ditectif Arolygydd.

“Ni fedraf bwysleisio pa mor bwysig yw dweud wrth yr heddlu os ydych yn amau bod rhywun ydych chi’n ei adnabod yn cario cyllell neu yn rhan o drosedd o’r fath.”

Pwysleisiodd: “Gallwch achub bywyd rhywun drwy siarad.”