Mae rheolwr gwesty yn gorfod talu dirwy o £10,000 am gynnal te angladd i 200 o bobol a thorri rheolau’r coronafeirws.

£10,000 yw’r ddirwy uchaf mae posib ei rhoi i bobol sydd yn torri’r rheolau, a dyma’r tro cyntaf i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ei gosod.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi gwahardd Castle Bromwich Hall Hotel yn Solihull rhag cynnal digwyddiadau tan fis Ionawr nesaf yn dilyn y te angladd, a gafodd ei gynnal ddydd Gwener (Medi 25).

Torri’r rheolau dro ar ôl tro

Derbyniodd yr heddlu naw galwad am y te angladd a’r gerddoriaeth uchel oedd i’w glywed yn dod o’r gwesty.

Cafodd y gwesteion eu hel adref am naw y nos.

Roedd y rheolwr eisoes wedi derbyn rhybuddion am dorri canllawiau Covid-19, ar ôl i “nifer o ddigwyddiadau” gael eu cynnal yno heb ymbellhau cymdeithasol.

Nid oedd y gwesty wedi bod yn cymryd manylion profi ac olrhain, na chynnig gwasanaeth bwrdd.

Ddydd Llun (Medi 28) gofynnodd yr heddlu i Gyngor Bwrdeistref Fetropolitaidd Solihull atal trwydded rheolwr y gwesty, a chytunodd y cyngor.

Bydd gwrandawiad llawn yn digwydd yn nes ymlaen ym mis Hydref wedi i’r heddlu gynnal adolygiad.

“Difaterwch” y rheolwr

Dywedodd Claire Bell, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro’r Heddlu yno: “Rydym yn byw mewn amseroedd caled ac rydym yn deall yr angen i ddathlu bywydau pobol sydd wedi ein gadael, ond mae’n rhaid i ni ddilyn y rheolau, helpu i atal lledaeniad y feirws a chadw pawb yn saff.

“Fe wnaethom gysylltu â phawb oedd yn y te angladd ac esbonio pam bod gofyn iddyn nhw adael, a gadawodd pawb.

“Rheolwr y gwesty sydd wedi cael ei ddirwyo am gynnal digwyddiadau oedd yn torri rheolau’r coronafeirws dro ar ôl tro; roedd ei ymddygiad yn dangos difaterwch tuag at ddiogelwch pawb arall.

“Mae gan fusnesau gyfrifoldeb i’w cwsmeriaid, i’w staff ac i’r gymuned ehangach, ac mae’n rhaid cosbi pobol sydd yn anwybyddu’r canllawiau.”

Aeth yn ei blaen i ddweud fod yr heddlu yn cymryd “agwedd lymach tuag at bobol sydd yn torri’r rheolau.

“Mae’r rheolau hyn yn gyfraith, a byddwn yn parhau i ddirwyo pobol sydd yn eu torri,” mynnodd.

“Rydym yn deall fod rhai o’r rheolau yn gallu drysu pobol a byddwn yn eu hesbonio, ond os yw pobol yn torri’r mesurau dro ar ôl tro, yna byddwn yn eu cosbi.”