Charlotte Church yw gwestai arbennig cynhadledd flynyddol Plaid Cymru.
Mae’r gynhadledd yn digwydd yn ddigidol am y tro cyntaf, a bydd y gantores yn ymuno ag Arweinydd Plaid Cymru i drafod annibyniaeth, dyfodol Cymru wedi Covid-19, a heriau bywyd dan gyfnodau clo.
Wrth drafod yr ymgyrch am Gymru annibynnol, dywedodd Charlotte Church y dylai’r mudiad bwysleisio bod Cymru annibynnol “i bawb” ac “na fyddai neb cael ei anghofio.”
“Dyfodol gwell i Gymru”
Dywedodd Charlotte Church ei bod yn edrych ymlaen at glywed am weledigaeth Adam Price ar gyfer “addysg, cynaladwyedd, cyd-gynhyrchu a democratiaeth,” – yn ogystal â’i weledigaeth am y ffordd y byddai Cymru annibynnol yn ymdopi â’r “newidiadau sy’n wynebu’r byd” ar hyn o bryd.
Ychwanegodd pa mor “gadarnhaol yw gweld mwy a mwy o bobol, fel fi, yn cefnogi’r mudiad annibyniaeth, ond credaf ei bod yn bwysig i’r neges atseinio bod Cymru annibynnol i bawb ac na fyddai neb yn cael eu hanghofio.”
“Mae wnelo annibyniaeth â dyfodol gwell i Gymru fel rhan o’r gymuned ryngwladol,” pwysleisiodd.