Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn chwilio am Gadeirydd newydd, wedi i’r un presennol gyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr.

Bydd Kevin Roberts yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd yn y gwanwyn, ar ôl pedair blynedd wrth y llyw.

Yn ystod y cyfnod hwnnw bu cynnydd o 26% yng ngwerth allforion cig oen ac eidion Cymru.

Cafodd cynllun strategol hirdymor newydd Gweledigaeth 2025 ei ddatblygu yn ystod cadeiryddiaeth Kevin Roberts, a bu wrthi’n sicrhau buddsoddiad ychwanegol i gyflawni gwaith newydd wrth gynyddu allforion a gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y gadwyn.

Kevin Roberts sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain HCC drwy argyfwng Covid-19, a bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fis Mawrth – wedi i ddiwedd cyfnod pontio Brecsit ddod i ben.

Digon o heriau

“Mae’r pedair blynedd ddiwethaf yn sicr wedi dod â’u heriau,” cyfaddefa Kevin Roberts.

“Bu’n gyfnod pan fu angen i’n sector ymateb i ddadleuon ynghylch yr amgylchedd a chynaliadwyedd, rydym wedi wynebu’r posibiliad o newid telerau masnach oherwydd Brecsit, ac yn fwy diweddar bu’n rhaid i ni addasu i bandemig digynsail.

“Rwy’n falch o’r hyn y mae HCC wedi’i gyflawni.”

Pwysleisa bod HCC yn cynhyrchu’r hyn mae defnyddwyr eisiau – “cynnyrch o ansawdd da, wedi’i gynhyrchu i’r safonau lles a chynaliadwyedd uchaf.

“Rwy’n gobeithio erbyn diwedd fy nghyfnod yn y gwanwyn y bydd y trefniant masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi’i setlo.

“Os daw hynny, gall y sector cig coch yng Nghymru edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a llewyrchus.”

Ar hyn o bryd mae HCC yn chwilio am olynydd Kevin Roberts, gyda’r cadeirydd newydd yn cael ei recriwtio trwy broses penodi cyhoeddus, cyn cael ei benodi yn derfynol gan Lywodraeth Cymru.