Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu £7 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at adeiladu ffordd fynediad newydd yn Llanbedr, yng Ngwynedd.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru Ken Skates y cyllid ychwanegol heddiw (dydd Gwener, Hydref 2), sy’n dod â chyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar y cynllun i £10 miliwn.

Bwriad y ffordd yw gwella mynediad at y maes awyr, sydd yn mynd ar hyd ffordd gul drwy Llanbedr ar hyn o bryd, yn ogystal â lleddfu traffig drwy’r pentref.

Bydd y cynllun yn cael ei gwblhau gan Gyngor Gwynedd a bydd gwerth £7.5 miliwn o gyllid ERDF (European Regional Development Fund) hefyd ar gael i’r Cyngor ar gyfer adeiladu ffordd gangen i’r maes awyr a darparu unedau busnes ar safle’r maes awyr.

“Manteisio i’r eithaf ar botensial economaidd y maes awyr”

“Rwy’n falch i gyhoeddi y gallwn ymrwymo £7.38 miliwn i ffordd fynediad Llanbedr, a fydd bellach yn caniatáu i’r cynllun fynd rhagddo,” meddai Ken Skates.

“Nododd Ardal Fenter Eryri ei fod yn ddatblygiad allweddol er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial economaidd y maes awyr a Chanolfan Awyrofod Eryri.

“Bydd cyfleoedd am swyddi a hwb i’r economi leol yn ystod y gwaith adeiladu.

“Bydd yn rhan o’n cynlluniau ar gyfer yr adferiad yn dilyn pandemig COVID-19.”

“Denu busnesau”

Bydd y ffordd fynediad newydd “yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddenu busnesau o safon i Ganolfan Awyrofod Eryri,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.

Ychwanegodd: “Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gadarnhau’r cyllid hwn, a fydd yn caniatáu inni symud ymlaen i wireddu’r cynllun hanfodol hwn.

“Mae datblygu safleoedd allweddol er mwyn creu swyddi o safon uchel yn bwysicach nag erioed gan fod ein cymunedau’n wynebu anawsterau economaidd yn sgil argyfwng COVID-19.”