Bydd Cymru yn stopio derbyn arian gan yr Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch sut yn union fydd Llywodraeth San Steffan yn camu i’r adwy.

Dyma sydd dan sylw mewn adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae Cymru yn derbyn £375m y flwyddyn trwy ‘Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddiant yr Undeb Ewropeaidd’.

Ac yn 2017 dywedodd cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddan nhw yn gosod ‘Cronfa Ffyniant Gyffredin’ yn ei lle yn dilyn yr ymadawiad.

Ond mae adroddiad y pwyllgor yn nodi mai prin iawn yw’r manylion ynghylch y gronfa arfaethedig yma, a bod cwestiynau mawr amdano o hyd.

Pryder y bydd stop “disymwth”

Wnaeth y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr ond mae rhai o reolau’r cyfandir yn parhau mewn gryn tan ddiwedd y flwyddyn. Y cyfnod pontio yw enw’r cyfnod yma.

Gyda’r cyfnod pontio yn dod i ben ymhen tri mis, mae  Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb, wedi galw’r sefyllfa yn “gwbl annerbyniol”.

“Serch hynny, mwy na thair blynedd ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi ei bwriad i ddisodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin yn eu lle, nid yw union natur y Gronfa yn glir.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Galwn ar y Llywodraeth i gyflwyno’i chynlluniau a rhoi sicrwydd ar frys na fydd y nawdd yn dod i ben yn ddisymwth ym mis Ionawr 2021.”

Gofynion

Mae’r pwyllgor yn galw am gael gwybod pryd y bydd manylion solat ynghylch y gronfa newydd yn cael eu darparu.

Yn benodol, mae am wybod sut y bydd yn cael ei chyllido a’i gweinyddu.