Mae perchennog bwyty pryd ar glyd Tsieineaidd o Gaerfyrddin wedi ennill cystadleuaeth llyfr Richard and Judy.

Mae’r gystadleuaeth yn gofyn i awduron, sydd heb gael eu gwaith wedi’i gyhoeddi o’r blaen, i ysgrifennu llawysgrif ffuglen wreiddiol i oedolion.

Enillodd Julie Ma y wobr am ei llyfr Happy Families a bydd hi’n derbyn cytundeb gwerth o leiaf £10,000, gyda’i gwaith yn cael ei gyhoeddi gan Grŵp Cyhoeddi Welbeck yn Chwefror 2021.

Daeth rhieni Julie Ma i Gymru o Tsieina yn y 1920au a chafodd ei geni a’i magu yng Nghaerfyrddin.

Sefydlodd ei rhieni fwyty tecawe Tsieineaidd yno yn y 1970au ac mae Julie Ma a’i brawd wedi bod yn ei redeg ers 2008.

Dywed bod ei chariad tuag at ddarllen ac ysgrifennu wedi dechrau yn yr ysgol ac mewn siop lyfrau lleol, Derrick Williams.

“Roeddwn i’n gobeithio y byddai Richard a Judy yn mwynhau clywed am y bobol yn y tecawe Tsieineaidd a’r dref roedden nhw’n byw ynddo. Ac mi ddaru nhw,” meddai Julie Ma.

“Awdur talentog a doniol”

“Roedden ni’n meddwl bod Happy Families yn wych, hollol wych,” meddai Richard Madeley.

“Mae’n stori fendigedig, ac mae hi’n awdur talentog a doniol.”

Dywedodd Jon Elek, cyhoeddwr ffuglen ar gyfer Grŵp Cyhoeddi Welbeck: “Roedd stori Julie Ma am dair cenhedlaeth o deulu Tsieineaidd yng nghefn gwlad Cymru yn bleser i’w ddarllen ac rydym yn edrych ymlaen at ei gyhoeddi flwyddyn nesaf.

“Mae’n drist, doniol, teimladwy ac yn eich tynnu i mewn i fywyd cymeriadau anhygoel sydd i gyd, mewn un ffordd neu’r llall, yn rhan o redeg tecawe Tsieineaidd mewn tref fechan.”