Mae Donald Trump wedi cael ei feirniadu am adael yr ysbyty dros dro a theithio mewn car arlywyddol er mwyn codi llaw ar gefnogwyr oedd yn aros tu allan i’r ganolfan feddygol.

Daeth taith Donald Trump mewn car arlywyddol o’r ysbyty, lle mae’n cael triniaeth am Covid, ar ôl iddo addo “syrpreis” i’w gefnogwyr mewn fideo ar Twitter.

Yn y fideo, dywedodd yr Arlywydd, 74 oed, ei fod wedi “dysgu lot am Covid” a’i fod yn “beth diddorol iawn.” Roedd yn gwisgo mwgwd yn y car a’i staff yn gwisgo cyfarpar diogelwch.

Ond mae doctor sy’n gweithio yng nghanolfan feddygol filwrol Walter Reed, lle mae Donald Trump wedi bod yn cael triniaeth ers nos Wener (Hydref 2), wedi cwestiynu a yw’r Arlywydd wedi dysgu unrhyw beth.

“Fe fydd pob un person yn y cerbyd yn ystod y daith hollol ddiangen yma bellach yn gorfod bod mewn cwarantin am 14 diwrnod. Efallai byddan nhw’n mynd yn sâl. Fe allen nhw farw. Er mwyn theatr wleidyddol. Ar orchymyn Trump i roi eu bywydau mewn perygl er mwyn theatr. Mae’n wallgof,” meddai Dr James P Phillips ar trydar.

Mae meddygon wedi dweud y gallai’r Arlywydd adael yr ysbyty mor fuan â heddiw (dydd Llun, Hydref 5) a’i fod yn dechrau gwella. Ond roedd ’na ddryswch ynglŷn â’i gyflwr ar ôl i feddyg ddweud bod lefelau ocsigen yng ngwaed yr Arlywydd wedi gostwng ddwywaith yn ystod y dyddiau diwethaf.

Yn y cyfamser mae ymgyrch Joe Biden, 77 oed, yr ymgeisydd Democrataidd yn y ras am y Tŷ Gwyn, wedi dweud ei fod wedi cael prawf negatif am y coronafeirws ddydd Sul. Daw hynny ar ôl i John Biden dreulio mwy na 90 munud yn rhannu llwyfan gyda Donald Trump ar gyfer dadl deledu bum diwrnod yn ôl.

Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn dechrau teimlo’n well a’i fod yn gobeithio “bod yn ôl yn fuan.”