Mae Boris Johnson yn dweud mai’r Undeb yw “un o gyflawniadau mawr” y Deyrnas Unedig.

Fe fu prif weinidog Prydain yn ymateb i bryderon Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, sy’n dweud ei fod e’n gofidio am ddyfodol yr Undeb a’r perygl y gallai’r Alban fynd yn wlad annibynnol.

Mae Douglas Ross wedi dweud yn ddiweddar bod rhai Ceidwadwyr “yn cyflwyno’r achos tros ymwahanu”, ond dywed Boris Johnson nad yw’n credu ei fod e’n cael ei gynnwys yn eu plith.

Yn ystod cynhadledd rithwir ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 3), fe wnaeth Douglas Ross feirniadu Ceidwadwyr yn Lloegr am ddangos “diffyg diddordeb” yn yr Undeb.

“Mae’r achos tros ymwahanu bellach yn cael ei gyflwyno’n fwy effeithiol yn Llundain nag y gallai fyth yng Nghaeredin,” meddai aelod seneddol Moray.

Ymateb Boris Johnson

Fe wnaeth Boris Johnson ymateb i’r sylwadau wrth siarad ag Andrew Marr ar y BBC fore heddiw (dydd Sul, Hydref 4).

“Dw i’n credu ei fod e’n siarad am y rhai nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r Undeb yn y ffordd rydw i, a dw i’n credu bod yr Undeb yn un o gyflawniadau mawr y wlad hon,” meddai.

“A gyda llaw, dw i’n credu bod ei gwerth, ei defnydd wedi cael ei dangos yn ddigonol yn ystod yr argyfwng yma.

“Nid yn unig y ffordd mae’r lluoedd arfog wedi helpu i ddosbarthu profion o amgylch y wlad, ond y ffodd mae’r gefnogaeth ariannol i’r Deyrnas Unedig gyfan wedi cael ei chyflwyno gan Drysorlys Ei Mawrhydi.”

Brexit a phersonoliaeth Boris Johnson

Dywedodd y byddai Brexit yn “gyfle enfawr” i’r Alban ac fe ddywedodd y byddai Bil y Farchnad Fewnol yn datganoli pwerau newydd i’r Alban, gan gynnwys pysgodfeydd.

Roedd yn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfraniad Brexit a’i bersonoliaeth wleidyddol ei hun at y cynnydd yn y galw am annibyniaeth yn yr Alban.

“Mae’n ymddangos yn gwbl anhygoel i fi fod yr SNP yn cefnogi polisi, wyddoch chi, o roi rheolaeth dros bysgodfeydd yn ôl, yn llythrennol, i Frwsel,” meddai.

“Troi cefn ar obeithion pobol ifanc y dyfodol sydd wedi’u magu yn yr Alban sydd â dyfodol gwych yn y diwydiant hwnnw.”

Ail refferendwm?

Ar fater ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, mae’n dweud nad “nawr yw’r amser”.

“Mae gan y wlad hon gryn waith i’w wneud i adfer o’r coronafeirws a dw i ddim yn credu mai nawr yw’r amser, yn blwmp ac yn blaen, i ni gael refferendwm arall,” meddai.

“Fe gawson ni refferendwm yn 2014, dywedwyd wrthym mai digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth oedd e… gan arweinwyr yr SNP a dydy chwe blynedd ddim yn ymddangos i fi yn genhedlaeth.”