Mae 53.3% o bleidleiswyr yn refferendwm annibyniaeth Caledonia Newydd yn y Môr Tawel wedi dewis aros yn rhan o Ffrainc – sydd ychydig yn llai na’r 56.4% bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ddwy flynedd yn ôl.
Dim ond 46.7% oedd o blaid annibyniaeth yn yr ail refferendwm i’w gynnal dros y blynyddoedd diwethaf.
Fe wnaeth mwy na 180,000 o bobol bleidleisio yn y refferendwm.
Fe fu ymdrechion ar y gweill ers tri degawd i geisio annibyniaeth yn dilyn anghydfod rhwng brodorion Kanak a thrigolion sy’n ddigon hapus i fod o dan reolaeth Ffrainc.
Bu Caledonia Newydd o dan reolaeth y wlad ers 1853, pan oedd Napoleon III wrth y llyw, a chafodd brodorion Kanak ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1957 ar ôl i Galedonia Newydd ddod yn diriogaeth dramor wedi’r Ail Ryfel Byd.
Mae Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi croesawu canlyniad y refferendwm fel “mynegiant o hyder yn y Weriniaeth gyda diolchgarwch mawr… a gostyngeiddrwydd”.
Ond mae e hefyd wedi addo “adeiladu Caledonia Newydd yfory”, gan ymbil ar drigolion i “edrych tua’r dyfodol”.