Mae rhybuddion am lifogydd yn eu lle yng Ngheredigion tan 3 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Hydref 4).
Mae ardaloedd Aberaeron ac Aberystwyth wedi cael glaw trwm ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y glaw trymaf wedi mynd heibio erbyn hyn.
Mae disgwyl i lefel afonydd Aeron a Rheidol godi tan ganol y prynhawn.
Mae’r ffyrdd canlynol ar gau yng Ngheredigion:
- B4337 yn Talsarn
- A44, Gelli Angharad