Mae oddeutu 1,000 o ddiffoddwyr tân, hofrenyddion milwrol a milwyr yn parhau i chwilio am o leiaf wyth o bobol sy’n dal ar goll yn llifogydd de-ddwyrain Ffrainc.
Mae’r llifogydd eisoes wedi lladd dau o bobol yn yr Eidal.
Mae cartrefi wedi’u dinistrio a rhannau o ffyrdd a phontydd wedi cael eu chwalu yn ninas Nice ar ôl i’r ardal weld gwerth blwyddyn o law yn cwympo mewn llai na 12 awr.
Ymhlith y rhai sydd ar goll mae dau ddiffoddwr tân sydd ar goll ers i ffordd ddymchwel oddi tanyn nhw ym mhentref Saint-Martin-Vesubie.
Mae’r awdurdodau’n gofidio bod rhagor o bobol wedi marw wrth i deuluoedd fethu â chysylltu â nhw gan fod llinellau ffôn wedi torri.