Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn dweud bod ymlediad y coronafeirws wedi arwain at y sylweddoliad fod y Deyrnas Unedig “ychydig yn rhy dew”.

Mae gordewdra’n un o’r ffactorau sy’n gallu arwain at bobol yn cael eu heintio â Covid-19, yn ôl gwyddonwyr.

Ac mae prif weinidog Prydain yn dweud iddo yntau hefyd gael ei heintio pan oedd e’n “rhy dew”.

“Os ga i ddweud, mae hon yn eiliad o addysg i’n gwlad fawr oherwydd rydyn ni’n un o’r llefydd gorau ar wyneb y Ddaear,” meddai.

“Ond serch hynny, rydyn ni ychydig yn rhy dew fel cenedl.

“Rydyn ni’n dewach na bron pawb arall yn Ewrop, ac eithrio trigolion ynys Melita am ryw reswm, ac mae angen i ni feddwl am hynny.

“Dw i ddim eisiau codi amheuon am fy ffrindiau ym Melita.”