Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn dweud iddo glywed am y cynllun i adleoli ffoaduriaid ym Mhenalun – yn ei etholaeth ei hun – trwy’r awdurdod lleol a gwefan gymdeithasol Facebook, ac nid gan y Swyddfa Gartref.
Roedd y Swyddfa Gartref eisoes dan y lach, gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw wedi dangos diffyg parch i bobol leol.
Mae Penalun ger Dinbych-y-Pysgod ymhlith llu o safleoedd sydd dan ystyriaeth ar gyfer 230 o ffoaduriaid.
Mae gwrthwynebwyr yn dweud eu bod nhw’n poeni am effaith y cynllun ar yr ardal, tra bod eraill yn dweud nad yw’r safle’n ddigon addas i gynnal y ffoaduriaid.
‘Hap a damwain’
Yn ôl Simon Hart, fe glywodd am y cynllun “trwy hap a damwain”.
“Mewn gwirionedd, fe wnes i glywed am y peth gan yr awdurdod lleol,” meddai wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.
“Fe wnaethon nhw fy ffonio i ofyn a oeddwn i wedi clywed, a doeddwn i ddim a doedd neb arall wedi clywed o ran hynny – yr heddlu, y bwrdd iechyd na’r cyngor na hyd yn oed Llywodraeth Cymru, y byddech chi efallai’n disgwyl y bydden nhw wedi clywed o dan yr amgylchiadau hynny.
“Fe wnes i fynd i’r afael â’r peth ar ryw fore Sadwrn bythefnos yn ôl.
“Fe wnes i grybwyll y peth gyda Priti Patel ar y bore Sul, a gwnaeth ei swyddogion gysylltu’n ôl â fi i ddweud y dylai fod yna hysbysiad ar y dydd Gwener ond am ryw reswm, doedd hynny ddim wedi digwydd yma nac yn Folkestone, fel dw i’n deall.
“P’un a fyddai hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’r penderfyniad terfynol, mae hynny’n destun dadl.
“Ond nid dyna’r pwynt.
“Ddylen ni ddim bod yn clywed am y pethau hyn trwy hap a damwain oherwydd fod rhywun wedi postio rhywbeth ar Facebook.
“Dylai fod gyda ni rywfaint o wybodaeth ymlaen llaw am y ffactorau arweiniodd at y penderfyniad fel y gallwn ni egluro wrth bobol sy’n gofidio ynghylch y goblygiadau.
“Wnaeth hynny ddim digwydd, a dw i wedi egluro wrth yr Ysgrifennydd Cartref nad yw hynny’n dderbyniol ac mae’n ymddangos bod y Swyddfa Gartref yn cydnabod nad oedden nhw’n ddigon da yn hynny o beth.”
‘Y sefyllfa ddim yn un foddhaol’
“Dw i crybwyll y peth gyda Priti Patel [yr Ysgrifennydd Cartref], ynghyd â’r Gweinidog Mewnfudo, ar dri neu bedwar achlysur,” meddai wedyn.
“Galla i ddeall y polisi.
“A dw i’n deall yr anhawster o ran Covid a dod o hyd i lety sy’n cydymffurfio â Covid, a dw i’n deall yr anawsterau o ran trafnidiaeth a’r holl bethau sydd wedi arwain at hyn.
“Ond y gwir yw y gwnaethon ni glywed trwy hap a ddamwain oherwydd fod sylwadau ar Facebook, a doedd dim cyswllt swyddogol.”
Mae’n dweud na wnaeth y Swyddfa Gartref “ymdrin â’r saga yn dda iawn” a’u bod nhw “wedi cyfaddef hynny”.
“Rydyn ni wedi bod yn ceisio adennill tir ers hynny,” meddai wedyn.
“Dyw’r sefyllfa ddim yn un foddhaol i unrhyw un sydd ynghlwm â hi.
“Dyna’r sefyllfa fel ag y mae hi heddiw.”