Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cadarnhau bod pum myfyriwr wedi profi’n bositif am Covid-19 wedi i griw o fyfyrwyr fynd ar noson allan gyda’i gilydd i Lerpwl.

Aeth y criw o fyfyrwyr, sydd yn astudio ar gampysau Dolgellau, Pwllheli a Glynllifon, i Lerpwl dros y penwythnos diwethaf.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am nifer o gampysau addysg uwch ledled gogledd Cymru, gyda Cholegau Meirion-Dwyfor Pwllheli a Dolgellau, a Choleg Glynllifon yn eu plith.

“Oblygiadau’r” cymdeithasu

Yn sgil y canlyniadau positif mae’n rhaid dysgu dau grŵp bychan sy’n astudio Amaethyddiaeth ac Iechyd a Gofal Cymdeithas ar gampws Glynllifon a Phwllheli ar-lein am bythefnos o ddoe (Hydref 1) ymlaen.

Yn ogystal, mae grŵp Lefel A yr ail flwyddyn ym Mhwllheli yn cael eu dysgu ar-lein am yr un cyfnod.

Mewn neges a gafodd ei ddosbarthu i staff a myfyrwyr y colegau ddoe, pwysleisiodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, pa mor bwysig yw ystyried yn ofalus beth yw oblygiadau cymdeithasu tu allan i’r coleg.

Wrth ymateb i’r digwyddiad, meddai Aled Jones-Griffith: “Rydym yn siomedig iawn fod carfan fach o fyfyrwyr wedi dewis anwybyddu canllawiau’r llywodraeth a theithio i Lerpwl i gymdeithasu’r penwythnos diwethaf.

“Trwy hynny, fe wnaethant roi eu hunain mewn perygl, ond hefyd roi eu cyd-fyfyrwyr, teuluoedd a’u cymunedau dan risg.”

Ers Medi 24 mae Llywodraeth Cymru yn argymell teithiau angenrheidiol yn unig.

“Mwyafrif yn dilyn y rheolau”

Ychwanegodd yr hoffai’r Colegau “sicrhau i’n holl fyfyrwyr a’u rhieni ein bod wedi ymateb ar unwaith i’r digwyddiad hwn, ac wedi cymryd pob rhagofal posib i leihau unrhyw effaith bellach.

“Ers cychwyn y pandemig rydym wedi sefydlu rhagdrefnau a mesurau cadarn ar draws y Grŵp i leihau’r risg o ledaenu’r haint er mwyn diogelu ein staff a’n dysgwyr gymaint ag y bo modd.

“Mae’r ffaith nad ydym ond wedi gweld nifer gymharol fach o achosion Covid-19 positif ar ein campysau hyd yma yn awgrymu’n gryf fod y mesurau hynny’n effeithiol.

“Rydym yn cydnabod fod hwn yn gyfnod anodd iawn i’n myfyrwyr, ac mae’r mwyafrif llethol yn dilyn y canllawiau.

“Byddwn yn parhau i bwysleisio’r neges fod gennym oll ran i’w chwarae er mwyn ein cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel trwy ddilyn camau fel pellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau – boed hynny yn ystod oriau coleg ai peidio.”