Cafodd teulu eu caethiwo yn eu cartref wedi i ddyn o Aberteifi gynnau tân tu allan i’r tŷ anghywir.
Dechreuodd Nathan Lee Jones dân tu allan i dŷ ar Stryd y Castell, Aberteifi yn gynharach eleni.
Ond roedd y dyn 42 oed wedi cynnau’r tân tu allan i’r tŷ anghywir gan beryglu teulu ifanc wrth i allanfa’r tŷ fynd ar dân.
Cafodd Nathan Lee Jones ei ddal ar ôl ymchwiliad manwl gan Heddlu Dyfed-Powys a thimau ar draws Ceredigion.
Mae Nathan Lee Jones wedi cael ei garcharu am bedair blynedd am gynnau tân bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywydau.
“Amlwg i’r tân gael ei ddechrau’n fwriadol”
Dywedodd Damon Watmough, Cwnstabl Dditectif yr achos: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig a difrifol, a allai fod wedi effeithio’n ofnadwy ar y teulu.
“Roedd yr amddiffynnydd yn benderfynol o achosi ofn a niwed pan gynheuodd y tân, gan roi teulu ifanc a dau o blant mewn perygl.
“Gobeithiwn y bydd y ddedfryd yn cynnig cysur i’r gymuned a’r dioddefwyr.”
Cafodd yr heddlu wybod am y tân am dri’r bore ar Fehefin 16 eleni, ac er bod awgrymiadau mai ar ddamwain y dechreuwyd y tân, profodd yr heddlu iddo gael ei ddechrau yn fwriadol.
Dywedodd DC Watmough: “Wrth i’r archwiliad fynd yn ei flaen, daeth yn amlwg fod y tân wedi ei ddechrau’n fwriadol, er nad y tŷ dan sylw oedd targed Nathan Lee Jones.
“Aeth yn ei ôl i geisio diffodd y tân, ond roedd bag du dal ar dân a lledaenodd y tân i sbwriel tu allan i’r tŷ.
“Erbyn i’r preswylwyr ddod i wybod am y tân, nid oedd ffordd iddyn nhw ddianc, ac roedd pibell nwy wedi torri a’r nwy yn gollwng i’w cartref.”
Pleidiodd Nathan Lee Jones yn euog yn Llys y Goron Abertawe, a chafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd dan glo ddydd Gwener diwethaf (Medi 25).